Crynodeb o Gwricwlwn i Gymru:
Ysgol Carreg Hirfaen
Mae ein cwricwlwm wedi’i gyd-greu drwy ymgysylltu â’r holl randdeiliaid a bydd yn bodloni’r gofynion canlynol:
Ein gweledigaeth
Ein nôd yn Carreg Hirfaen yw darparu addysg o'r ansawdd uchaf i blant a phobl ifanc ein hardal. Gwnawn hyn mewn amgylchedd gyfoes a chyfeillgar trwy ymrwymiad staff proffesiynol, ymroddedig a gofalgar sydd yn anelu'n barhaus at sicrhau y Safonau Addysgol uchaf posib.
Gweithiwn law yn llaw efo'n cymuned leol i ddarparu'r ystod ehangaf o gyfleoedd addysgol ac allgyrsiol i'n disgyblion, a'u datblygu i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, annibynnol, ac yn ddinasyddion cydwybodol, hyderus, dwyieithog y dyfodol.
Ein gwerthoedd
- creu amgylchedd ysgol hapus a chroesawgar sy'n parchu Hawliau'r Plentyn.
- cyflwyno cwricwlwm sydd wedi ei yrru gan y “pedwar pwrpas”.
- datblygu pob unigolyn i'w lawn botensial trwy gynnig ystod eang o brofiadau sy'n meithrin a datblygu sgiliau o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar wybodaeth.
- hyrwyddo cyfle cyfartal a pharch tuag at bawb, waeth beth fo'u cred, eu hil a'u rhyw.
- annog cariad at ddysgu a lefelau uchel o hyder trwy ddull meddylfryd 'twf'.
- datblygu sgiliau meddwl effeithiol, y gallu i ddysgu yn annibynnol a'r medrau i ddatrys problemau yn greadigol.
- defnyddio pob cyfle posib i ddatblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol gan alluogi pob plentyn i brofi cyflawniad ar bob lefel.
- galluogi disgyblion i dderbyn cyfrifoldeb cynyddol am drefnu eu dysgu eu huanain a datblygu eu rheolaeth o amser.
- gwella hunan-werth pob plentyn a meithrin eu gallu i werthfawrogi gwerth pob unigolyn trwy eu trochi mewn amgylchedd cyfeillgar, gofalgar a diogel. Bydd hyn yn datblygu empathi, hunanddisgyblaeth, hunan-barch uchel ac ymddygiad da ymhlith unigolion.
- datblygu dychymyg byw a chreadigrwydd trwy gynnig ystod eang o brofiadau dilys a chyfoethog.
- datblygu'r chwilfrydedd naturiol y mae plant yn ei arddangos amdanynt eu hunain ac am y byd o'u cwmpas, a defnyddio y chwilfrydedd yma i feithrin agweddau cadarnhaol, iach at ddysgu.
- datblygu gwerthfawrogiad o ddiwylliant, treftadaeth a hanes am Gymru a'n hardal leol.
- datblygu gwerthfawrogiad o'r iaith Gymraeg.
Ein cwricwlwm cynhwysol
Bydd ein cwricwlwm yn codi dyheadau pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael ei gefnogi i wireddu’r pedwar diben ac i symud ymlaen. Rydym wedi ystyried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn bodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.
Y pedwar diben
Y pedwar diben yw’r man cychwyn a’r dyhead ar gyfer ein cynllun cwricwlwm ysgol. Nod ein hysgol yw cefnogi ein dysgwyr i ddod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a'r byd
- unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig
Bydd ein cwricwlwm yn darparu cyfleoedd a phrofiadau i ddatblygu’r cysyniadau, gwybodaeth a sgiliau allweddol fel y’u disgrifir yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn unol â’r Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig.
Meysydd Dysgu a Phrofiad
Bydd ein cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu drwy’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad o:
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Celfyddydau Mynegiannol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Dyniaethau
- Mathemateg a Rhifedd
- Iechyd a Lles
Dysgu, Dilyniant ac Asesu
Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu trwy ddylunio cyfleoedd dysgu sy'n tynnu ar yr egwyddorion addysgegol.
Mae ein cwricwlwm, a ategir gan addysgu a dysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu a gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall beth mae’n ei olygu i wneud cynnydd mewn Maes neu ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodoleddau a’u tueddiadau, ac mae’n cael ei lywio gan y Cod Cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein hymagwedd at asesu, a’i ddiben yw llywio cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd asesu yn cael ei wreiddio fel rhan gynhenid o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu ar fynediad i'r ysgol.
Cymraeg a Saesneg
- Mae ysgolion sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg i gyflwyno’r cwricwlwm. Cyflwynir gwersi Saesneg ym Mlwyddyn 3.
Sgiliau trawsgwricwlaidd
Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd ein cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn a’u hymestyn a’u cymhwyso ar draws pob Maes. Bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i:
- datblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
- gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn
- bod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i'w helpu i weithredu a chyfathrebu'n effeithiol a gwneud synnwyr o'r byd.
CCUHP – Hawliau Plant
Bydd ein hysgol yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o CCUHP, ac o CCUHP, ymhlith y rhai sy'n darparu addysgu a dysgu.
CWRE : profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith
Bydd ein cwricwlwm yn ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar gyfer ein holl ddysgwyr.
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ACRh
Mae ein cwricwlwm ysgol yn cofleidio'r arweiniad yn y Cod ACRh. Bydd gan ein darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb rôl gadarnhaol a grymusol yn addysg ein dysgwyr a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth eu cefnogi i wireddu’r pedwar diben fel rhan o ymagwedd ysgol gyfan. Sylfaen ACRh yw helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o berthnasoedd, i gyd yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch. Mae'r perthnasoedd hyn yn hanfodol i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.
CGM : Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Mae crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) yn ofyniad statudol o’r Cwricwlwm i Gymru ac mae’n orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed.
Nid oes hawl gan riant i wneud cais i dynnu plentyn o wersi CGM yn y Cwricwlwm i Gymru
Gan fod CGM yn bwnc a bennir yn lleol, mae'r maes llafur cytûn yn nodi'r hyn y dylid ei addysgu mewn CGM o fewn yr awdurdod lleol a bydd ein cwricwlwm yn adlewyrchu'r canllawiau hyn.
Adolygu a mireinio
Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn ymateb i allbynnau ymholi proffesiynol, anghenion cyfnewidiol dysgwyr a chyd-destunau ac anghenion cymdeithasol. Bydd yr adolygiadau'n ystyried barn rhanddeiliaid ac yn cael eu cymeradwyo gan y Corff Llywodraethol. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n cwricwlwm ac yn adolygu’r crynodeb os gwneir newidiadau i’r cwricwlwm yn ystod y broses adolygu.
Pennaeth: A Jones Evans 14.09.2022
Cadeirydd y Corff Llywodraethol: D Evans 14.09.2022
Dyddiad adolygu: Medi 2023