School Logo

Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen Primary School

"Dyfal Donc a Dyr y Garreg"

Contact Details

Cwricwlwm Newydd i Gymru

CWRICWLWM NEWYDD I GYMRU

 

Beth sy’n newid?

Y newid mwyaf yw cwricwlwm newydd yng Nghymru o fis Medi 2022. Mae'r cwricwlwm wedi'i wneud yng Nghymru ond wedi'i lywio gan y syniadau gorau o bob cwr o'r byd.

Bydd newidiadau hefyd i wella'r ffordd y caiff dysgwyr eu hasesu, yn ogystal â ffyrdd newydd o hyfforddi staff, a helpu ysgolion i wella. Bydd y newidiadau hyn i gyd yn ategu'r cwricwlwm newydd.

 

Pam fod angen inni wneud y newidiadau hyn? 

Cyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol am y tro cyntaf yn 1988; oes cyn siopa ar-lein, cyn Google a chyn y Cwmwl. Bellach, mae gwaith yn wahanol, mae technoleg yn wahanol, ac mae cymdeithas yn newid. Rhaid i'r cwricwlwm baratoi pobl ifanc at y dyfodol; eu paratoi i lwyddo mewn byd lle mae sgiliau digidol, creadigrwydd a'r gallu i addasu - ynghyd â gwybodaeth - yn hanfodol. 

“O ystyried graddfa a chyflymder y newid, mae'n debygol y bydd llawer o blant yn yr ysgol gynradd heddiw yn gweithio mewn swyddi sydd naill ai ddim yn bodoli heddiw, neu o leiaf mae’r tasgau cyfansoddol yn wahanol iawn i rai heddiw

Dyfodol Gwaith yng Nghymru, Mair Bell, Dan Bristow a Steve Martin, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru
(1 Tachwedd 2017)

 

Rydyn ni eisiau i blant fwynhau dysgu – gan ddatblygu sgiliau, gwybodaeth, a chydnerthedd emosiynol. Erbyn iddynt droi'n 16 oed, dylai pobl ifanc fod yn uchelgeisiol, yn wybodus, yn llawn menter, ac yn barod i chwarae rôl yn y gymuned a chymdeithas. Dylent fod yn barod i ffynnu yn y byd gwaith newydd.

 

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r Athro Graham Donaldson adolygu'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu yng Nghymru. Cyhoeddodd yr Athro Donaldson ei ganfyddiadau mewn dogfen o’r enw “Successful Futures”.

 

Roedd rhai cryfderau eisioes yn bodoli yn system addysg Cymru a chydnabu bod y llywodraeth wedi ceisio gwneud addasiadau cadarnhaol i'r cwricwlwm gyda'r Fframwaith Sgiliau, er enghraifft, ond yr argymhelliad cyffredinol oedd, “I ddiwallu anghenion heddiw a goroesi heriau yfory, mae achos pwerus dros newid y cwricwlwm ”.


Cred Donaldson bod cyflawni dibenion y cwricwlwm yn gofyn am ddulliau sy'n fwy uniongyrchol berthnasol i ddiwallu anghenion personol, cymdeithasol ac economaidd sy'n dod i'r amlwg.


Pedwar pwrpas y cwricwlwm newydd

Mae pedwar pwrpas y cwricwlwm newydd yn fwy na sloganau. Maen nhw wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud, gan ddatblygu disgyblion i ddod yn:

 

Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes.
Gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
Ddinasyddion moesegol, gwybodus am Gymru a'r Byd
Unigolion iach, hyderus, sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.


Chwe maes Profiad Dysgu

Mae'r adroddiad yn awgrymu y dylid cael “Chwe maes Profiad Dysgu”. Mae'r chwech yn bwysig a byddant yn cyfrannu mewn gwahanol ffyrdd at gyflawni y Pedwar pwrpas:

  • Celfyddydau Mynegiannol
  • Iechyd a Lles
  • Dyniaethau
  • Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg


Mae Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol mor bwysig i feddwl, dysgu a bywyd fel y dylid eu datblygu a'u cryfhau ar draws y cwricwlwm ehangach.

 

Yn Carreg Hirfaen rydym yn ymdrechu i sicrhau:

  • Bod y pynciau'n hyrwyddo'r 4 pwrpas
  • Defnyddir Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar draws y cwricwlwm
  • Bod dysgu annibynnol yn digwydd e.e. cenadaethau, heriau
  • Dysgu cydweithredol
  • Meddwl a mynegiant creadigol
  • Dysgu awyr agored
  • Dysgu tan arweiniad disgybl / llais disgybl
  • Bod Lles Staff a Disgyblion yn greiddiol.

 

Top