CYNLLUNIO A PHARATOI AR GYFER DYSGU
Mae ein cwricwlwm yn rhoi pwyslais ar arfogi pobl ifanc am oes. Mae'n rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu sgiliau newydd a chymhwyso eu gwybodaeth yn gadarnhaol ac yn greadigol.
Mae dysgwyr yn cael dealltwriaeth ddofn o sut i ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol. Rydym yn dilyn fframwaith cymhwysedd digidol sy'n datblygu sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm, ac yn eu paratoi ar gyfer y cyfleoedd a'r risgiau y mae byd ar-lein yn eu cyflwyno.
Mae pob athro yn sicrhau bod dysgwyr yn uchelgeisiol ac ar gam dilyniant sy'n berthnasol i'w hangen. Mae gan pob AoLE nifer o ddatganiadau 'Beth sy'n Bwysig', maent yn sicrhau ehangder, ac ymdriniaeth o'r cysyniadau allweddol sylfaenol.
Fel canllaw cynllunio, mae'r ysgol wedi mapio disgwyliadau ar gyfer pob grŵp blwyddyn yn y tabl isod. Fodd bynnag, gall dysgwyr fod yn uwch neu'n is na'r disgrifiadau o ddysgu o fewn y cam dilyniant penodol hwnnw. Nid model 'ffit orau' yw cam dilyniant plentyn ond ffordd i gynllunio'n wirioneddol ar gyfer dilyniant unigolyn mewn gwahanol feysydd dysgu.
Mae athrawon yn defnyddio'r amser CPA yn effeithiol i gynllunio, paratoi ac asesu dysgu yn eu gweithdai dosbarth. Mae hyn yn amlinellu y sgiliau, y wybodaeth a'r profiadau y mae angen i pob plentyn fedru eu datblygu.
GRWP BLWYDDYN | CAM CYNNYDD |
Nursery | CC 1 |
Reception | CC 1/CC 2 |
Year 1 | CC 2 |
Year 2 | CC 2 |
Year 3 | CC 2/CC 3 |
Year 4 | CC 3 |
Year 5 | CC 3 |
Year 6 | CC 3/CC 4 |