School Logo

Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen Primary School

"Dyfal Donc a Dyr y Garreg"

Contact Details

Cymraeg

PRESENOLDEB ac ABSENOLDEB

Gwybodaeth Bwysig

 

Disgwylir i ni fel ysgol i reoli presenoldeb a chadw cofnod o absenoldeb disgyblion. Mae'n ofynnol i bob ysgol gofnodi absenoldeb disgybl fel un awdurdodedig neu anawdurdodedig. Os bydd rhieni'n methu â hysbysu'r ysgol o absenoldeb, bydd yr absenoldeb yn cael ei gofnodi'n awtomatig fel absenoldeb anawdurdodedig yn erbyn y plentyn.

 

Dylai rhieni hysbysu'r ysgol yn ysgrifenedig os yw yr absenoldeb yn hysbys ymlaen llaw. Mae'r ysgol yn cadw'r hawl ym mhob achos o absenoldeb i bennu categori yr absenoldeb hwnnw.

 

Pan fydd gan blentyn apwyntiad meddygol yn ystod y diwrnod ysgol dylai rhieni roi gwybod i'r ysgol pryd y bydd y plentyn yn cael ei gasglu. Ni chaniateir i unrhyw blentyn adael yr ysgol oni bai ei fod yn cael ei gasglu gan oedolyn cyfrifol.

Eich cyfrifoldeb chi fel rhiant yw hysbysu'r ysgol o bob achos o absenoldeb.

 

Mae’r ysgol yn defnyddio system gyfrifiadurol ac electronig i gynnal cofrestr presenoldeb disgyblion pob dydd. Mae'r weithdrefn yn galluogi'r Awdurdod Addysg i fonitro patrymau presenoldeb, absenoldeb a thriwantiaeth posibl mewn ysgolion. Mae'r weithdrefn yn datgelu achosion o absenoldeb heb ganiatâd a disgwylir i ni fel ysgol atgyfeirio (y rhai nad ydym yn derbyn rheswm drostynt) i sylw'r Swyddog Addysg a Lles.

 

Bydd y gofrestr yn aros ar agor pob dydd tan 9.30am.


Mewn achos o absenoldeb dylid hysbysu'r ysgol o absenoldeb eich plentyn ar y bore cyntaf. Mae angen gwneud hyn er mwyn cadarnhau dilysrwydd yr absenoldeb a chydymffurfio â threfniadau Iechyd a Diogelwch yr ysgol, hynny yw; bydd cyswllt â'r ysgol yn dangos bod rhiant yn ymwybodol o absenoldeb ei plentyn gan osgoi unrhyw amheuaeth neu bosibilrwydd o driwantiaeth.


Os na dderbynnir gair neu alwad ffôn cyn 9.30am, bydd yr ysgol yn ceisio cysylltu â rhieni i gadarnhau bod plentyn yn absennol gyda gwybodaeth y rhiant. Unwaith eto, bydd hyn yn rhan o’r weithdrefn i ddiogelu Iechyd a Diogelwch disgyblion. Gan fod yr ysgol ‘in loco parentis’ rhwng 8.30am a 3.35pm, rhaid sicrhau erbyn hyn bod disgyblion yn ddiogel a bod gan rieni feddwl tawel bod eu plentyn yn bresennol yn yr ysgol yn ôl y disgwyl.


Mae’r weithdrefn gofrestru electronig yn gosod canllawiau a chyfeiriad clir i ysgol nodi rhesymau pendant a dilys dros absenoldeb disgyblion. Bydd angen cyflwyno nodyn i egluro absenoldeb disgybl ar y diwrnod cyntaf y bydd y disgybl yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl salwch.


Dylid ceisio caniatâd y Pennaeth ymlaen llaw os bydd yr angen yn codi i blentyn fethu sesiwn ysgol e.e. apwyntiad meddyg, apwyntiad ysbyty, apwyntiad deintyddol, gweithgaredd addysgol. Byddai dod â cherdyn neu lythyr apwyntiad o'r fath i'r ysgol  yn hwyluso'r weithdrefn i bawb ac yn osgoi'r angen am nodyn esboniadol. Dychwelir y cerdyn apwyntiad neu'r llythyr gwreiddiol wrth gwrs.


Mae gan yr ysgol weithdrefn bendant i rieni ofyn caniatâd y Pennaeth i esgusodi disgybl o'r ysgol am gyfnod o wyliau teuluol yn ystod y tymor - hyd at 10 diwrnod ysgol. Ystyrir bod absenoldeb o'r fath yn absenoldeb awdurdodedig. Rhaid nodi absenoldeb (oherwydd gwyliau) sy'n fwy na'r 10 diwrnod ysgol a ganiateir fel absenoldeb heb awdurdod.
Gwerthfawrogir cyswllt ymlaen llaw am ganiatâd i ddisgybl fethu sesiwn ysgol am reswm gwahanol i salwch neu apwyntiad. Mae'r weithdrefn gofrestru yn manylu ar yr hyn a dderbynnir fel absenoldeb awdurdodedig a'r hyn y mae'n rhaid ei nodi fel absenoldeb anawdurdodedig.
 

Rydym yn gwerthfawrogi bod pethau'n aml yn codi'n sydyn ac heb rybudd. Mae'r ysgol hon, ei threfniadau a'i staff yn sensitif i hynny, ond gwerthfawrogir pe gallech gysylltu â ni a rhoi rheswm dros absenoldeb eich plentyn pan fedrwch chi, ond yn bendant ar ôl i'r plentyn ddychwelyd i'r ysgol.

 

Ar adegau tywydd garw bydd y pennaeth yn cysylltu â phrifathro Ysgol Bro Pedr i gydlynnu cludiant plant sy'n byw mewn ardaloedd anghysbell gartref yn gynnar. Mae hyn yn angenrheidiol gan fod plant yn y ddwy ysgol yn aml yn rhannu'r un cludiant. Cysylltir â rhieni dros y ffôn neu neges destun i sicrhau bod rhywun gartref cyn y caniateir i blentyn fynd adref yn gynnar ar gludiant ysgol.

 

Bydd gwybodaeth am gau ysgolion yn ystod tywydd garw yn cael ei hysbysu ar wefan y Sir a'i ddarlledu ar Radio Wales / Cymru, Radio Sir Gaerfyrddin ac ar Wefan Sir Caerfyrddin cyn gynted â phosibl.

Top