Cyngor Ysgol 2024 - 2025
Ein casgliad o nwyddau ar gyfer Cartref Hafan Deg a Banc Bwyd Llambed
'Plant Mewn Angen' 2024
Mehefin 2024 - Diwrnod gwisgo melyn i godi ymwybyddiaeth o Ffeibrosis Cystic. Codwyd y cyfanswm arbennig o £258.72 at yr elusen.
Mai 2024
Rydym wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn swm sylweddol o arian wrth Ymddiriedolaeth RR Davies. Dymuniad y Cyngor Ysgol oedd i brynu adnoddau ac offer ar gyfer amser chwarae, felly dyma ni!
We have been very lucky to receive a substantial grant from the RR Davies Trust. The School Council were keen to purchase games and equipment to use on the yard at play times, so here we are!
Cyngor Ysgol 2023 - 2024
Hydref 2023 / October 2023
Unwaith eto eleni, fel rhan o'n dathliadau Diolchgarwch, fe gasglom eitemau ar gyfer y Banc Bwyd yn Llambed a Chartref Gofal Hafan Deg. Aeth aelodau o'r Cyngor Ysgol a'r nwyddau atynt ac roeddent yn ddiolchgar dros ben.
Once again this year, as part of our Thanksgiving celebrations, we collected items for the Food Bank in Lampeter and Hafan Deg Care Home. Members of the School Council delivered the many boxes of goods to them and they were very grateful indeed.
Cyngor Ysgol 2022-2023
Hydref 2022
Trefnodd y Cyngor Ysgol brynhawn coffi er mwyn codi arian tuag at 'Apêl Cemo Bronglais'. Roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus dros ben a chodwyd cyfanswm o £600 at yr elusen.
October 2022
The School Council arranged a coffee afternoon to raise money for the 'Bronglais Chemo Appeal'. The event was a huge success and raised £600 for the charity.
Hydref 2022
Fel rhan o'n dathliadau Diolchgarwch, casglom nwyddau at y Banc Bwyd yn Llambed a Chartref Hafan Deg. Aeth aelodau'r Cyngor Ysgol a'r nwyddau lawr atynt ac roeddent yn ddiolchgar dros ben.
October 2022
As part of our Thanksgiving celebrations, we collected items for the Food Bank in Lampeter and Hafan Deg Care Home. Members of the School Council delivered the items to them and they were very grateful indeed.
Cyfnewidfa Lyfrau / Book Exchange
Mawrth 2023
Fel rhan o 'Ddiwrnod y Llyfr', trefnodd y Cyngor Ysgol 'Cyfnewidfa Lyfrau'. Daeth disgyblion yr ysgol a'u hen lyfrau i mewn a chael y cyfle i'w cyfnewid am rai gwahanol. Roedd pawb wrth eu boddau gyda'u llyfrau newydd :-)
March 2023
As part of 'World Book Day', the School Council organised a 'Book Exchange'. The pupils brought old books to school and were given the opportunity to swap them for different ones. Everyone was pleased with their new books :-)