School Logo

Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen Primary School

"Dyfal Donc a Dyr y Garreg"

Contact Details

Latest News

Dyma newyddion diweddaraf yr ysgol.

Here you will find the latest School news.

  • Ymgynghoriad Talgylch Ysgol - School Catchment Consultation

    Tue 03 Feb 2026

    PWYSIG: YMGYNGHORIAD ARDAL DALGYCH YSGOL

    IMPORTANT: SCHOOL CATCHMENT CONSULTATION

     

    Annwyl rieni a gofalwyr,

    Dear Parents and Carers,

    Mae’n bwysig iawn eich bod yn cwblhau’r arolwg ymgynghori sy’n ymwneud â newidiadau arfaethedig sylweddol i ardal ddalgylch yr ysgol a’r trefniadau cludiant disgyblion i’w galluogi i fynychu addysg uwchradd.

    It is very important that you complete the consultation survey regarding significant proposed changes to the school catchment area and the resulting pupil transport arrangements for accessing secondary education.

     

    Mae Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin yn cynnig gwneud Ysgol Bro Dinefwr (Llandeilo) yn ysgol uwchradd dalgylch dynodedig ar gyfer holl ddisgyblion Carreg Hirfaen sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin. Os cânt eu cyflwyno, bydd y newidiadau hyn yn cael effaith sylweddol ar ein cymuned yn y blynyddoedd i ddod.

    Carmarthenshire Local Authority is proposing that Ysgol Bro Dinefwr (Llandeilo) becomes the designated catchment secondary school for all Carreg Hirfaen pupils living in Carmarthenshire. If introduced, these changes will have a significant impact on our community in the years ahead.

     

    O dan y newidiadau arfaethedig hyn, o 2027/28 ymlaen ni fyddai disgyblion sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim i Ysgol Bro Pedr. Byddai cludiant am ddim ond ar gael i Ysgol Bro Dinefwr.

    Under the proposed changes, from 2027/28 pupils living in Carmarthenshire would no longer be entitled to free school transport to Ysgol Bro Pedr. Free transport would only be provided to Ysgol Bro Dinefwr.

     

    Cyn cwblhau’r holiadur, gofynnwn i chi ystyried yn ofalus effaith y newidiadau hyn ar deuluoedd Carreg Hirfaen.

    Before completing the questionnaire, please carefully consider how these changes may affect Carreg Hirfaen families.

     

    O 2027/28, os ydych yn dymuno i’ch plentyn fynychu Ysgol Bro Pedr, bydd angen i chi eu gyrru i’r ysgol bob dydd drwy gydol eu haddysg uwchradd. Yr unig ddewis arall fyddai’r siwrnai hirfaith ar y bws i Ysgol Bro Dinefwr.

    From 2027/28, if you wish your child to attend Ysgol Bro Pedr, you would need to transport them daily for the duration of their secondary education. The only alternative would be the much longer bus journey to Ysgol Bro Dinefwr.

     

    Mae hyd y daith hon ar fws ysgol a natur droellog yr hewl yn peri pryder mawr i ni wrth gwrs. Gallai’r daith effeithio’n negyddol ar les eich plentyn ac, o ganlyniad, ar eu cynnydd addysgol hir-dymor.

    The length of this journey is a serious concern. This twice‑daily journey may negatively affect your child's wellbeing and, potentially, their long‑term educational progress.

     

    Gofynnwn yn garedig i chi gwblhau’r holiadur isod a’i rhannu yn ogystal gyda teulu ac aelodau eraill o'n cymuned ysgol.

    Please complete the questionnaire and share it with family and other members of our school community.

     

    Mae’r ymgynghoriad yn cau ar Chwefror 27ain 2026.

    The consultation closes on February 27th 2026.

    Diolch – Thank you

     

    https://www.carmarthenshire.gov.wales/council-democracy/have-your-say/school-catchment-areas/?fbclid=IwY2xjawPvSmVleHRuA2FlbQIxMABicmlkETFueEdLR1htS1JtTEZJQ3NIc3J0YwZhcHBfaWQQMjIyMDM5MTc4ODIwMDg5MgABHmRfb7ts3uCYyX4K2e1UTWYXAsQCdrTiXn7R-Gw8zAQH1bWROuJq7QpFpL8W_aem_KOcyK8V6tQEv1J4Gp0jZ8g

  • Swydd Goruchwyliwr Amser Cinio - Lunchtime Supervisor post

    Fri 20 Sep 2024

    Oes diddordeb gyfa chi mewn swydd Goruchwylio Amser Cinio yn Ysgol Carreg Hirfaen? Gweler y ddolen isod am y manylion:

     

    Are you interested in a Lunchtime Supervisor role at Carreg Hirfaen? See below link for further details:

    Swydd - Post 

  • Urdd Carreg Hirfaen

    Fri 13 Sep 2024

     

     

     

     

    Urdd

    2024 – 2025

     

    Eleni, mae yr Urdd wedi symud Ysgol Carreg Hirfaen o fod yn rhan o Gylch Llambed, Ceredigion i fod yn rhan o Gylch Bannau Tywi,Dwyrain Myrddin. Golyga hyn y byddwn o hyn ymlaen yn cystadlu yn erbyn ysgolion Sir Gaerfyrddin ymhob gweithgaredd Chwaraeon ac Eisteddfodol gan deithio i ardal Llanymddyfri a Llandeilo.

     

    Recently, as part of their restructuring plans, the Urdd movement decided to move Ysgol Carreg Hirfaen from being a member of the Lampeter group of primary schools to being a member of the Tywi Beacons Group of area Schools in Carmarthenshire. This means that from now on we will be competing against Carmarthenshire schools in all Sports and Eisteddfod activities, and traveling to the Llandovery and Llandeilo area to participate in Urdd activities.

  • Diwrnod ola'r Tymor - Last day of term

    Wed 17 Jul 2024
    19/07/24
    Dillad eu hunain - Own choice of clothes
    Ar ddiwrnod olaf y tymor sef dydd Gwener yma, gall y disgyblion yr ysgol wisgo dillad o ddewis eu hunain i'r ysgol. 
    
    This Friday, our last day of term, all pupils can come to school wearing their own choice of clothing.
  • Ffair Haf a Ras Carreg Hirfaen / Summer Fair and Carreg Hirfaen Race

    Mon 01 Jul 2024
    Ffair Haf a Ras Carreg Hirfaen / Summer Fair and Carreg Hirfaen Race
    Annwyl Deuluoedd, 
    Byddwn yn cynnal ein Ffair Haf ar ddydd Gwener y 12fed o Orffennaf gyda’r nod o godi arian i’r ysgol. Bydd stondinau ar y noson yn cynnwys twba lwcus, hoopla, stondin boteli a thuniau, bbq a llawer mwy. Gofynnwn yn garedig i deuluoedd yr ysgol gyfrannu:
    Cyfnod Allweddol 1 (Sawel, Crwys a Hathren)  -  Gwobrau i’r twba lwcus/hoopla 
    Cyfnod Allweddol 2 (Caio, Fana and Rhos) – Tuniau a Photeli 
    Pawb: Raffl: Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniadau o wobrau tua’r raffl, yn ogystal. 
    Gallwch ollwng yr eitemau hyn yn yr ysgol cyn gynted ag y medrwch. 
    Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu ar y stondinau, felly os gallwch sbario 30 munud rhowch eich enw ar y rota fydd ar dudalen Facebook Rhieni Carreg Hirfaen.  
    Yn ystod y noson mi fydd yna gyfle i ddisgyblion i gymryd rhan mewn ras rhedeg lle bydd tariannau ar gyfer y 3 uchaf a medal i bawb fydd yn cymryd rhan. Mi fydd ras y plant yn dechrau am 6.30 yh
    Categorïau Rhedeg; Ras Blwyddyn 2 ac Iau, Ras 3 a 4, Ras 5 a 6, Ras Uwchradd ac yna Ras Oedolion
    ______________________________________________________________________________________
    
    Dear Families,
    We will be holding our Sumer Fair and Carreg Hirfaen Race on Friday 12th of July with the aim of raising money for the school. Stands on the night will include Lucky dip, hoopla, bottle / tin stall, bbq and more. We kindly ask that families contribute: 
    Key Stage 1 (Sawel, Crwys and Hathren) – Lucky Dip and Hoopla Prizes 
    Key Stage 2 (Caio, Fana and Rhos) – Tins and bottles 
    Raffle: we would also greatly appreciate any prize donations towards the raffle.
    Please drop these items off at the school at your earliest convenience. 
    We are always looking for volunteers to help out on the stands, so if you can spare 30 minutes, please put your name down on a rota which will be shared on Rhieni Carreg Hirfaen’s Facebook page. 
    During the evening there will be a race for the children – every child that takes part will receive a medal and the top 3 will get a trophy. 
    Race Categories are: Years 2 and under, Years 3 and 4, Years 5 and 6, Secondary and Adult races. 
    
    Diolch i chi am eich holl gefnogaeth barhaus i'n hymdrechion codi arian i'r plant.
    Thank you for all your continued support of our fund-raising efforts for the children
  • Asesiadau Cenedlaethol - National Assessments

    Wed 12 Jun 2024
    Asesiadau Cenedlaethol - National Assessments
    Tros yr wythnosau nesaf, gan ddechrau dydd Llun Mehefin 17eg,  byddwn yn cynnal asesiadau efo disgyblion blynyddoedd 2, 3, 4, 5 a 6 yr ysgol. 
    Bydd yr asesiadau  yn ein cynorthwyo i adnabod cryfderau pob disgybl a'n harwain wrth i ni baratoi gweithgareddau addas ar eu cyfer bydd yn diwallu eu hanghenion ym meysydd Llythrennedd a Rhifedd.
    Rydym yn arferol yn asesu'n ffurfiannol o leiaf ddwy waith y flwyddyn gan ddefnyddio profion masnachol addas a brynir gan yr ysgol ac hefyd yn defnyddio Profion ar-lein Cenedlaethol a rannwyd efo ysgolion trwy HWB.
    Cyflwynir y gweithgareddau asesu yma mewn modd sensitif, cefnogol a gofalgar fel rhan o'n gweithgareddau dydd i ddydd. Ni wneir dim ffws ynglyn â'r profion ac ni fynnwn i'r disgyblion gael rheswm i boeni amdanynt. Rwy'n pwysleisio taw y peth olaf yr ydym am ei wneud yw gosod ein plant tan bwysau emosiynol trwm mewn cyfnod sydd wedi bod mor anodd a heriol iddynt.
    Carwn i chi felly i gefnogi llês eich plentyn trwy bwysleisio iddo/iddi na ddylai boeni am yr asesiadau. Ni rennir y canlyniadau nag unrhyw ddata sy'n ymwneud â'r asesiadau gydag unrhyw asiantaeth allanol - fe'u defnyddir yn unig i fwydo cynllunio yr athrawon a'ch gwneud chi fel rhieni yn hysbys o gynnydd eich plentyn ac arwain y camau nesaf yn addysg eich plentyn.
    
    Over the next few weeks, starting on Monday, June 17th, we will be conducting National Reading (Welsh and English) and Numeracy Assessments with pupils in years 2, 3, 4, 5 and 6. These assessments have a diagnostic purpose that will help us identify each pupil's strengths and guide us as we prepare suitable activities for them that will meet their Literacy and Numeracy needs.
    We assess formatively at least twice a year using commercial tests purchased by the school as well as the National Reading and Numeracy Tests that are shared with schools digitally via HWB. 
    The assessment activities will be delivered in a sensitive, supportive and caring way as part of our day to day activities. We do not want our pupils to worry about them.
    I would therefore urge you to support your child's welfare by stressing to him / her that he / she should not be concerned about these assessments. The results and any data relating to the assessments will not be shared with any external agencies - they will only be used to inform teachers' planning and to inform you as parents of your child's progress and help identify the next steps in your child's learning.
    Diolch - Thank you
    Aled Jones Evans
  • LLUNIAU YSGOL - SCHOOL PHOTOS

    Thu 09 May 2024

    LLUNIAU YSGOL UNIGOL - INDIVIDUAL SCHOOL PHOTOS

    13/05/24

    Bydd y ffotograffydd ysgol gyda ni yn Carreg Hirfaen yn tynnu lluniau unigol o'r plant a/neu lluniau teulu bore dydd Llun, Mai 13eg. Mae croeso i rieni ddod a brodyr / chwiorydd i'r ysgol erbyn 9am i dynnu llun teulu.

    The school photographer will be at Carreg Hirfaen next Monday, May 13th 2024. He will be taking individual and/or family photos of our pupils.

    Parents are welcome to bring siblings to school by 9am if they wish to have a family photo taken.

  • Hyfforddiant Seiclo Blwyddyn 6 - Year 6 Bicycle Training

    Wed 01 May 2024

    Hyfforddiant Seiclo Blwyddyn 6

    Cynhelir hyfforddiant seiclo i'n disgyblion blwyddyn 6 ar ddydd Mercher y 15fed o Fai. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan swyddogion trafnidiaeth Sir Gaerfyrddin ac yn cael ei gynnal tros dau ddiwrnod.

    Bydd angen i feic eich plentyn fod yn ddiogel a chymwys ar gyfer ei reidio ar yr hewl fawr a bydd angen i'ch plentyn wisgo helmed seiclo addas.

    Bydd manylion pellach yn dilyn tros y diwrnodau nesaf.

    Year 6 Bicycle Training

    Safe Cycling training has been arranged for our year 6 pupils to commence on Wednesday the 15th of May. The training will be provided by Carmarthenshire LEA officers and will take place over two days.

    Your child's bike will need to be safe and suitable for riding on the open road and your child will need to wear a suitable cycling helmet.

    Further details will follow over the next few days.

  • Gwyl Mabolgampau a Chwaraeon Carreg Hirfaen Sports Festival

    Fri 26 Apr 2024

    Gwyl Mabolgampau a Chwaraeon Carreg Hirfaen Sports Festival

    12/06/24

    Cynhelir ein diwrnod Mabolgampau hwyl y tymor hwn ar ddydd Mercher, Mehefin 12fed ar gae chwarae yr ysgol.

    Bydd y pwyslais eleni ar fwynhau gwahanol weithgareddau chwaraeon gan sicrhau hwyl a sbri i bawb. Anelwn leihau'r elfen gystadleuol arferol ar unigolion sydd yn aml yn achos pryder i nifer o'n disgyblion.

    O ganlyniad, gweithgaredd fewnol (plant a staff) bydd ein mabolgampau eleni a hynny heb bresenoldeb arferol y cyhoedd.

     

    Our Sportsday 'Fun Festival' will be held this term on Wednesday, June 12th on the school playing field.

    The emphasis this year will be on enjoying various sporting activities and games, ensuring fun, excitement and enjoyment for all our pupils. We have decided to reduce the individual competitive element of the sports day which is often a cause of anxiety for many of our pupils.

    As a result, our sports day this year will be an internal activity (children and staff) without the presence of the parents and the general public.

  • Pared Gwyl Dewi Llambed - Lampeter St Davids Day Parade

    Fri 23 Feb 2024
Top