School Logo

Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen Primary School

"Dyfal Donc a Dyr y Garreg"

Contact Details

Latest News

Dyma newyddion diweddaraf yr ysgol.

Here you will find the latest School news.

  • Noson Addysgiadol - Educational Evening

    Tue 28 Mar 2023

    NOS YFORY - TOMORROW NIGHT

    29/03/23

     

    Carwn eich atgoffa am ein noson Addysgiadol nos yfory i gychwyn am 6.30pm yn neuadd yr Ysgol. Bydd aelodau'r PTA yn darparu lluniaeth ysgafn yn ystod y noson.

    A reminder that you are all welcome to join us at our Educational Evening tomorrow night at the school. It will start at 6.30pm and the PTA will be providing refreshments during the evening.

  • HMS - INSET

    Mon 27 Mar 2023
    HMS - INSET
    DYDD LLUN, 17EG EBRILL 2023
    MONDAY, APRIL 17TH 2023

    Bydd hyfforddiant mewn swydd nesaf yr ysgol yn cael ei gynnal ar ddydd Llun Ebrill 17eg 2023 ac yn canolbwyntio ar Cymhwysedd Digidol ac agweddau o'r Cwricwlwm Newydd. Ni fydd disgyblion yn mynychu'r ysgol ar y diwrnod hwn felly ac yn dychwelyd ar ddydd Mawrth, Ebrill 18fed 2023.

     

    Our next INSET day will be held on Monday April 17th 2023 and will focus on developing Digital Competence and certain aspects of the new Curriculum for Wales. Pupils will return to school the following day on Tuesday, April 18th 2023.

  • NOSON ADDYSGIADOL - EDUCATIONAL EVENING

    Tue 14 Mar 2023
    NOSON ADDYSGIADOL - EDUCATIONAL EVENING

    29/03/23

    Cynhelir Noson Addysgiadol yn yr ysgol ar nos Fercher, Mawrth 29ain i ddechrau am 6.30pm.

    Cyflwynir gwybodaeth i rhieni am y cwricwlwm newydd ac am y gwahanol ffyrdd y gallant gefnogi eu plant yn eu dysgu trwy hyrwyddo gwahanol weithgareddau yn y cartref. Noson i'r rhieni yw hon wrth gwrs ac nid i'r plant.

    Ffocws y noson yw:

    • Y Cwricwlwm Newydd

    • Sumdog - Datblygu Medrau Mathemateg a Rhifedd plant

    • Cefnogi Medrau Darllen eich plant

    • Cefnogi Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol disgyblion

    EDUCATIONAL EVENING

    An Educational Evening for parents will be held at the school on Wednesday, March 29th starting at 6.30pm.

    Information will be presented to parents about the new curriculum and the different ways they can support their children's learning by promoting various activities at home.

    The focus will be on:

    • The New Curriculum

    • Sumdog - Developing Children's Mathematics and Numeracy Skills

    • Supporting your children's Reading Skills

    • Supporting pupils' Mental Health and Emotional Wellbeing

    Cofiwch gefnogi'r noson - Please support the evening.

    Diolch - Thank you

    Aled Jones Evans

  • Ymwybyddiaeth 'Strep A' Awareness

    Fri 10 Mar 2023
    Achosion Lleol o Strep A
    Efallai y byddwch yn ymwybodol am gynnydd diweddar yn nifer yr hysbysiadau a gafwyd o’r dwymyn goch a’r clefyd streptococol ymledol. Plant o dan 10 oed sy’n cael eu heffeithio gan yr haint hwn yn bennaf, ac felly gall achosion ohono ddigwydd mewn ysgolion a meithrinfeydd. Bydd plant hŷn hefyd yn dueddol o gael dolur gwddf streptococol, ond efallai na fyddan nhw’n cael brech y dwymyn goch.
    Arwyddion a symptomau’r dwymyn goch 
    Mae’r dwymyn goch, a elwir weithiau’n scarlatina, yn glefyd heintus sy’n cael ei achosi gan facteria streptococws grŵp A (GAS) (a elwir hefyd yn Streptococcus pyogenes). Mae'n heintus iawn a gellir ei ddal drwy gysylltiad uniongyrchol ag unigolyn sydd wedi’i heintio neu drwy'r aer o ddiferion o beswch neu disian. Symptom nodweddiadol y dwymyn goch yw brech binc fân ar draws y corff sy'n teimlo fel papur gwydrog i’w gyffwrdd. Mae symptomau eraill yn cynnwys tymheredd uchel, wyneb gwritgoch a thafod coch, chwyddedig. 
    Mae’r driniaeth yn syml ac fel arfer mae’n cynnwys rhoi cwrs o wrthfiotigau penisilin.
    
    Cymhlethdodau’r dwymyn goch a’r haint streptococol
    Nid yw'r rhan fwyaf o achosion o’r dwymyn goch yn achosi unrhyw gymhlethdodau, yn enwedig os yw'r cyflwr yn cael ei drin yn iawn. Fodd bynnag, gall cymhlethdodau ddigwydd yn ystod cyfnod cynnar y clefyd, gan gynnwys haint yn y glust, casgliad yn y gwddf, sinwsitis, niwmonia a llid yr ymennydd. 
    
    Y camau a argymhellir
    • Dylid cynghori rhieni plant sy’n sâl i gael cyngor meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth.
    • Dylai person sydd â’r dwymyn goch gadw o’r ysgol am 24 awr ar ôl cychwyn triniaeth wrthfiotig briodol.
    • Gall hylendid dwylo da ac osgoi lledaenu diferion anadlol (fel gyda’r ffliw- "ei ddal, ei daflu, ei ddifa") helpu i atal yr haint rhag lledaenu

     

    AWARENESS OF STREP-A SYMPTOMS

    You may be aware of an increase in notifications of scarlet fever and invasive streptococcal disease locally. This infection mostly affects children aged under 10 years, and so outbreaks can occur in schools and nurseries. Older children are also susceptible to streptococcal sore throats but may not have the rash of scarlet fever. Signs and symptoms of scarlet fever Scarlet fever, sometimes called scarlatina, is an infectious disease caused by group A streptococcus (GAS) bacteria (also known as Streptococcus pyogenes). It is highly infectious and can be caught through direct contact with an infected person or through the air via droplets from coughs or sneezes. The characteristic symptom of scarlet fever is a widespread, fine pink-red rash that feels like sandpaper to touch. Other symptoms include a high temperature, a flushed face and a red, swollen tongue. Treatment is straightforward and usually involves a course of penicillin antibiotics. Complications of scarlet fever and streptococcal infection Most cases of scarlet fever cause no complications, especially if the condition is properly treated. However, complications in the early stages of the disease can include ear infection, throat abscess, sinusitis, pneumonia and meningitis. Recommended actions • Parents of unwell children should seek medical advice for diagnosis and treatment • A person with scarlet fever should withdraw from schools / settings for 24 hours after the commencement of appropriate antibiotic treatment • Good hand hygiene and avoidance of spread of respiratory secretions (as per influenza- “catch it, bin it, kill it”) can help to prevent the spread of infection

  • PARÊD GŴYL DEWI - ST DAVIDS DAY PARADE

    Thu 02 Mar 2023

    PARÊD GŴYL DEWI - ST DAVIDS DAY PARADE

    Cynhelir Parêd Gŵyl Dewi Llanbed ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Fawrth 2023. Fel yr arfer, bydd y Parêd yn dechrau am 11.00 o’r gloch o Ysgol Bro Pedr, Llanbed, yn ymlwybro drwy’r dref, ac yn gorffen ar gampws Prifysgol Llanbed. Yno, bydd Siani Sionc a chôrau lleol yn diddanu pawb ynghyd â lluniaeth ysgafn i bawb.

    Bydd cynrychiolaeth o Bwyllgor Rhieni Athrawon Carreg Hirfaen yn bresennol dydd Sadwrn ac anogwn unrhyw blant o'r ysgol sy'n gorymdeithio i gasglu ynghyd a cherdded gyda'n gilydd.

    Anogir pawb sy'n mynychu i wisgo gwisg Gymreig neu ddilledyn coch i ddathlu gŵyl ein nawddsant. Byddai’n braf hefyd os gall plant gario baner Cymru yn ystod yr orymdaith.

    Llinos Jones, cyn-bennaeth cynorthwyol Ysgol Bro Pedr fydd yn arwain yr orymdaith eleni.

    ***********************************************************************

    The Lampeter St David's Day Parade will be held this Saturday the 4th of March 2023. As usual, the Parade will start at 11.00 o'clock from Ysgol Bro Pedr, make its way through the town, and finish at the Lampeter University campus . There, Siani Sionc and local choirs will entertain along with light refreshments for everyone.

    We encourage all who attend to wear Welsh dress or red clothing to celebrate our patron saint's festival. It would also be nice if children attending can carry the Welsh flag during the parade.

    Representatives from Carreg Hirfaen's Parent Teacher Association will be present on Saturday and we encourage any children from the school who are marching to gather and walk together.

    Llinos Jones, former assistant principal of Ysgol Bro Pedr will lead the parade this year.

Top