YSGOL GYNRADD CARREG HIRFAEN
CYTUNDEB YSGOL-CARTREF
Fel athrawon o’r ysgol gwnawn ein gorau i: · wireddu amcanion yr ysgol · ofalu am ddiogelwch a hapusrwydd eich plentyn mewn awyrgylch gydnaws Gymreig a Chymraeg · gyrraedd safonau uchel trwy waith dosbarth a gwaith cartref a chyrraedd safon uchel mewn ymddygiad · ddarparu cwricwlwm cytbwys i gyfarfod ag anghenion eich plentyn · ddatblygu talentau a gallu eich plentyn cyn belled â phosibl · roi gwybodaeth am gynnydd eich plentyn ynghyd â materion cyffredinol trwy gyfarfodydd rhieni, cylchlythyron ac adroddiadau · ymdrin yn sensitif gyda phryderon neu gwynion · baratoi eich plentyn i adael yr ysgol yn gymwys a hyderus i barhau â’i (h)addysg yn y sector uwchradd |
Arwyddwyd…………………………………….. Prifathro
Fel rhiant/gwarcheidwad, gwnaf fy ngorau i: · sicrhau bod fy mhlentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd a phrydlon gyda’r cyfarpar angenrheidiol ac yn gwisgo’r dillad priodol · hysbysu’r ysgol yn syth am unrhyw absenoldeb anorfod · gefnogi awdurdod, disgyblaeth ac ethos Gymreig yr ysgol · gymryd diddordeb gweithredol a chefnogol yng ngwaith a chynnydd fy mhlentyn gan gynnwys gwaith cartref · fynychu Cyfarfodydd Rhieni a thrafodaethau eraill yn ymwneud â chynnydd fy mhlentyn · annog fy mhlentyn i fanteisio ar gyfleoedd a gynigir · roi gwybod i’r ysgol am unrhyw broblem a all effeithio ar ymddygiad a gwaith fy mhlentyn · ddod i wybod am fywyd fy mhlentyn yn yr ysgol
|
Arwyddwyd……………………………………….Rhiant
Fel disgybl o’r ysgol, gwnaf fy ngorau i: · fod yn bresennol yn rheolaidd a phrydlon · ymddwyn â pharch, bod yn gwrtais a chymwynasgar tuag at ddisgyblion eraill ac aelodau’r staff · gadw traddodiadau Cymraeg a Chymreig yr ysgol bob amser · ddod â chyfarpar a dillad angenrheidiol · gwblhau fy holl waith dosbarth a gwaith cartref hyd eithaf fy ngallu · gymryd mantais o’r cyfleoedd a gynigir · ofalu am amgylchedd yr ysgol · anelu i gyrraedd safon uchel o ymddygiad pan yn cynrychioli’r ysgol mewn gweithgareddau academaidd, crefyddol, diwylliadol a chorfforol |
Arwyddwyd………………………………………….Disgybl