School Logo

Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen Primary School

"Dyfal Donc a Dyr y Garreg"

Contact Details

PARÊD GŴYL DEWI - ST DAVIDS DAY PARADE

PARÊD GŴYL DEWI - ST DAVIDS DAY PARADE

Cynhelir Parêd Gŵyl Dewi Llanbed ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Fawrth 2023. Fel yr arfer, bydd y Parêd yn dechrau am 11.00 o’r gloch o Ysgol Bro Pedr, Llanbed, yn ymlwybro drwy’r dref, ac yn gorffen ar gampws Prifysgol Llanbed. Yno, bydd Siani Sionc a chôrau lleol yn diddanu pawb ynghyd â lluniaeth ysgafn i bawb.

Bydd cynrychiolaeth o Bwyllgor Rhieni Athrawon Carreg Hirfaen yn bresennol dydd Sadwrn ac anogwn unrhyw blant o'r ysgol sy'n gorymdeithio i gasglu ynghyd a cherdded gyda'n gilydd.

Anogir pawb sy'n mynychu i wisgo gwisg Gymreig neu ddilledyn coch i ddathlu gŵyl ein nawddsant. Byddai’n braf hefyd os gall plant gario baner Cymru yn ystod yr orymdaith.

Llinos Jones, cyn-bennaeth cynorthwyol Ysgol Bro Pedr fydd yn arwain yr orymdaith eleni.

***********************************************************************

The Lampeter St David's Day Parade will be held this Saturday the 4th of March 2023. As usual, the Parade will start at 11.00 o'clock from Ysgol Bro Pedr, make its way through the town, and finish at the Lampeter University campus . There, Siani Sionc and local choirs will entertain along with light refreshments for everyone.

We encourage all who attend to wear Welsh dress or red clothing to celebrate our patron saint's festival. It would also be nice if children attending can carry the Welsh flag during the parade.

Representatives from Carreg Hirfaen's Parent Teacher Association will be present on Saturday and we encourage any children from the school who are marching to gather and walk together.

Llinos Jones, former assistant principal of Ysgol Bro Pedr will lead the parade this year.

Top