Dyma newyddion diweddaraf yr ysgol.
Here you will find the latest School news.
-
PARENTPAY - Disgyblion Blwyddyn 5 - Year 5 Pupils - Hawlio Arian Cinio yn ol - Claiming dinner money credit back from parentpay
Tue 20 Feb 2024Dyma neges i'n rhieni Blwyddyn 5 sydd ag arian cinio yng nghyfrif Parentpay eich plentyn, carwn dynnu eich sylw at sut mae hawlio'r arian yn ol o gyfrif Parentpay i'ch cyfrif personol fel eich bod yn medru ei ddefnyddio at ddibenion eraill, e.e. talu am dripiau neu wisg ysgol, etc. Mae angen i chi ddanfon neges ebost i'r cyfeiriad yma sef schoolmeals@carmarthenshire.gov.uk efo'r manylion canlynol:
- Enw eich plentyn:
- Blwyddyn Ysgol:
- Enw'r Ysgol: Carreg Hirfaen
- Swm arian (Credit) sydd yn nghyfrif cinio eich plentyn
Ar ol derbyn y wybodaeth bydd adran Arlwyo'r Sir yn talu'r arian yn ol i'ch cyfrif Parentpay personol. ***********************************************************************************************************************
This is a message to our Year 5 parents who have credit for paid school lunches in your child's Parentpay account. I'd like to draw your attention on how to claim money back from the Parentpay School Dinners account to your child's personal Parentpay account so that it can be used for other purposes, e.g. paying for school trips or school uniform, etc. You need to send an email with the details listed below to the following address: schoolmeals@carmarthenshire.gov.uk :
- Your child's name:
- School Year:
- Name of the School: Carreg Hirfaen
- Amount of money (Credit) in your child's lunch account
After receiving this information Carmarthenshire Catering department will credit the money back to your child's personal Parentpay account.
-
GOFAL RHEW - CARE ICE
Mon 15 Jan 2024Byddwch yn ofalus iawn wrth yrru a cherdded ar draws maes parcio'r ysgol heddiw. Mae rhew y bore, yn enwedig yn y cysgod lle nad oes haul yn syrthio yn ei gwneud hi'n llithrig iawn tan droed. Be very careful when driving and walking across the school car park today. The morning frost, especially in the shade where no sun falls has made it extremely slippery under foot. -
CYFLE DA - A GREAT OPPORTUNITY
Wed 13 Dec 2023Manylion i ddilyn!!!
-
Panto Nadolig - Christmas Panto
Tue 12 Dec 202320/12/23 Mae angen rhifau terfynnol arnom erbyn 12 o'r gloch pnawn yfory o'r plant hynny sydd am fynd i'r Panto Nadolig yn Theatr y Lyric dydd Mawrth nesaf. I gadarnhau presenoldeb eich plentyn ar y trip i'r Panto mae angen i chi wneud taliad am y trip ar Parentpay a danfon y ffurflen ganiatad wedi ei chwblhau yn ol i'ch athrawes ddosbarth. Ni ellir archebu tocynnau ar ol pnawn yfory. We need to have final numbers by 12 o'clock tomorrow afternoon of pupils who wish to attend the Christmas Panto at Theatr y Lyric, Carmarthen next Tuesday. To confirm your child's attendance on the trip you will need to make the payment on Parentpay and return the completed permission form to your class teacher by 12 noon tomorrow afternoon. Tickets for the Panto cannot be ordered after this deadline tomorrow. -
Cyngerdd Nadolig - Christmas Show
Tue 12 Dec 2023Cyngerdd Nadolig Gan fod y Sioe Nadolig yn dechrau am 6.30pm nos yfory carwn i'n disgyblion gyrraedd yno rhwng 6pm a 6.10pm yn eu gwisgoedd. Bydd y drysau yn agor i'r cyhoedd am 6pm a phris mynediad i oedolion yn £5 y pen. Bydd mynediad i blant oed cynradd ac uwchradd yn rhad ac am ddim. Derbynnir arian parod yn unig wrth y drws. Bydd y PTA yn cynnal raffl Hamperi Nadolig ar y noson - gellir prynu tocynnau wrth y drws yn y brif fynedfa. Gellir defnyddio maes parcio'r coleg i barcio yn rhad ac am ddim. Ar ddiwedd y sioe gofynnwn i rhieni gasglu eu plant oddi wrth staff dosbarth eu plant. Edrychwn ymlaen i'ch gweld nos yfory. ********************************************************************************************************************** Christmas Show As the Christmas Show will begin at 6.30pm tomorrow night we would like our pupils to arrive there between 6pm and 6.10pm in their costumes. The doors will open to the public at 6pm and admission for adults will be £5 per person. Entry for primary and secondary aged children will be free. Payment will be cash only at the door. The PTA will be holding a Christmas Hamper raffle on the evening - tickets can be bought at the door in the main entrance. The college car park can be used to park free of charge. At the end of the show we kindly ask parents to collect their children from their class teachers. We look forward to seeing you all tomorrow night.
-
CINIO NADOLIG - CHRISTMAS DINNER
Wed 06 Dec 2023CINIO NADOLIG - CHRISTMAS DINNER 19/12/2023 Mae Cinio Nadolig Carreg Hirfaen yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth y 19eg 2023 AC NID ar ddydd Mercher yr 20fed fel a nodwyd ddoe ar neges i'n rhieni oddiwrth Adran Arlwyo'r Sir. Mae'n bwysig nodi hefyd bod angen i bob rhiant archebu Cinio Nadolig i'w plant ymlaen llaw trwy App ParentPay yr Ysgol. Carreg Hirfaen's Christmas Dinner has been arranged for Tuesday, December 19th 2023 AND NOT for Wednesday the 20th as stated yesterday in a message to our parents from the Authority's Catering Department. It is also important to note that ALL parents will need to book their children's Christmas Dinner IN ADVANCE via the School ParentPay App. -
Feirws ‘Hand, Foot and Mouth,’ ‘Scarlett fever’,’ Strep-A’ Virus
Mon 13 Nov 2023Feirws ‘Hand, Foot and Mouth,’ ‘Scarlett fever’,’ Strep-A’ Virus
Carwn dynnu eich sylw at achosion o feirws ‘Hand, Foot and Mouth’, ‘Scarlett Fever’ a ‘Strep-A’ sydd wedi eu darganfod ar blant sydd yn mynychu ysgol Carreg Hirfaen yn ystod yr wythnos diwethaf.
Mae’r tri feirws yn heintus ac yn arddangos symptomau o wddf tost, tymheredd uchel, wlserau ceg, spotiau ar y dwylo neu’r traed sydd hefyd yn cosi.
Os bod eich plentyn yn arddangos symptomau neu os bod angen mwy o gyngor arnoch ynglyn a’r symptomau yna awgrymwn i chi ymweld eich meddyg teulu am arweiniad.
I would like to inform you that pupils here at Carreg Hirfaen have recently contracted viruses relating to ‘Hand, Foot and Mouth’, Strep-A and Scarlett fever.
These viruses display the following symptoms: sore throat, mouth ulcers, temperature, loss of appetite and itchy spots on the hands and feet. If you have any concerns regarding exposure to these viruses or need further advice relating to symptoms then please consult with your GP.
-
TREFNIADAU NOSON RHIENI - Hydref 2023 Autumn Term - PARENTS EVENING ARRANGEMENTS
Tue 07 Nov 2023TREFNIADAU NOSON RHIENI - PARENTS EVENING ARRANGEMENTS
15/11/23 - 16/11/23
Y tymor hwn bydd ein Nosweithiau Rhieni unwaith eto yn cael eu cynnal yn neuadd yr ysgol - wyneb i wyneb gydag athrawes ddosbarth eich plentyn. Bydd cyfle gennych i bori llyfrau gwaith eich plentyn yn gyntaf cyn trafod ei gynnydd/chynnydd a'r camau nesaf yn y dysgu efo'r athrawes.
Bydd y nosweithiau yn rhedeg rhwng 3.30pm a 6.30pm. Byddwch yn medru archebu slot amser ar gyfer cyfarfod eich athro dosbarth trwy ein system parents-booking.com bydd yn agor heno am 6.30pm.
Logiwch mewn i parents-booking.com ar y ddolen isod:
https://parents-booking.co.uk/login.jsp
This term our Parents' Evenings will be held in person with your child's class teacher at the school. You will have the opportunity to browse your child's workbooks before discussing their progress and next steps in learning with the teacher.
Both evenings will run from 3.30pm until 6.30pm. You will be able to book a time slot for meeting your class teacher through our parents-booking.com system which will open tonight at 6.30pm.
Log into parents-booking.com by using the following address:
-
Strep-A
Thu 05 Oct 2023Mae achosion o Strep-A wedi eu canfod yn yr ysgol. Byddwch yn wyliadwrus o'r symptomau.
We currently have cases of Strep-A at Carreg Hirfaen. Please note the symptoms of Strep-A as noted below.
-
Diwedd Tymor - Haf 2023 / Summer 2023 - End of Term
Fri 21 Jul 2023Diwedd Tymor - End of Term
Haf 2023 - Summer 2023
Yn gyntaf carwn ddiolch i chi ddisgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a holl aelodau'n cymuned ysgol am eich cefnogaeth arbennig tros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r disgyblion wedi elwa'n aruthrol ar brofiadau dysgu ac allgyrsiol arbennig trwy ymroddiad parhaus ein staff, a'r gymuned wedi cyfoethogi'r profiadau dysgu yma yn enfawr trwy groesawu ymweliadau addysgiadol ac unigolion wedi ymweld a'r ysgol i rannu profiadau diddorol ac ysgogol efo'r plant.
Diolchwn a dymunwn yn dda i'n swyddog gweinyddol; Mrs Mererid Morgan, sydd yn ymddeol heddi ar ol blynyddoedd lawer o wasanaeth i'r ysgol. Traed lan nawr Mererid a mwynhau eich amser hamdden yn yr ardd.
Pob lwc hefyd i'n disgyblion blwyddyn 6 sydd yn symud ymlaen i flwyddyn 7 yn Ysgol Bro Pedr, Ysgol Bro Dinefwr ac Ysgol Bro Teifi. Diolch i chi am eich gwaith caled ar hyd y blynyddoedd a cofiwch alw nol i'n gweld yn Carreg Hirfaen pan gewch gyfle.
Wrth edrych ymlaen i fis Medi 2023 carwn eich hysbysu y bydd y staff yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Gwener, Medi 1af ar gyfer Hyfforddiant mewn Swydd. Bydd dydd Llun, Medi 4ydd hefyd yn ddiwrnod HMS, ac fe fydd ein disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Mawrth Medi 5ed.
Mwynhewch y gwyliau Haf bawb ac edrychwn ymlaen i'ch gweld ym mis Medi.
Firstly we would like to thank you pupils, parents, staff, governors and all members of our school community for your support over the past year.
The pupils have benefited enormously in their learning and extra-curricular experiences through the continuous dedication of our staff, and the community has greatly enriched these learning experiences by welcoming the school on educational visits and by individuals visiting the school to share interesting and stimulating experiences.
We offer our best wishes to our administrative officer; Mrs Mererid Morgan, who retires today after many years of service to the school. Thank you Mererid for dedication to Carreg Hirfaen - feet up now and enjoy your leisure time in the garden.
Good luck also to our year 6 pupils who are moving on to year 7 at Ysgol Bro Pedr, Ysgol Bro Dinefwr and Ysgol Bro Teifi. Thank you for your hard work over the years and remember to call back to see us at Carreg Hirfaen when you get the chance.
Looking forward to September 2023 we would like to inform you that the staff will return to school on Friday, September 1st for In-Service Training. Monday, September 4th will also be an INSET day, and our pupils will return to school on Tuesday September 5th.
Enjoy the Summer holidays everyone and we look forward to seeing you in September.
Diolch / Thank You
Aled Jones Evans