School Logo

Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen Primary School

"Dyfal Donc a Dyr y Garreg"

Contact Details

Diwedd Tymor - Haf 2023 / Summer 2023 - End of Term

Diwedd Tymor - End of Term

Haf 2023 - Summer 2023

Yn gyntaf carwn ddiolch i chi ddisgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a holl aelodau'n cymuned ysgol am eich cefnogaeth arbennig tros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r disgyblion wedi elwa'n aruthrol ar brofiadau dysgu ac allgyrsiol arbennig trwy ymroddiad parhaus ein staff, a'r gymuned wedi cyfoethogi'r profiadau dysgu yma yn enfawr trwy groesawu ymweliadau addysgiadol ac unigolion wedi ymweld a'r ysgol i rannu profiadau diddorol ac ysgogol efo'r plant.

Diolchwn a dymunwn yn dda i'n swyddog gweinyddol; Mrs Mererid Morgan, sydd yn ymddeol heddi ar ol blynyddoedd lawer o wasanaeth i'r ysgol. Traed lan nawr Mererid a mwynhau eich amser hamdden yn yr ardd.

Pob lwc hefyd i'n disgyblion blwyddyn 6 sydd yn symud ymlaen i flwyddyn 7 yn Ysgol Bro Pedr, Ysgol Bro Dinefwr ac Ysgol Bro Teifi. Diolch i chi am eich gwaith caled ar hyd y blynyddoedd a cofiwch alw nol i'n gweld yn Carreg Hirfaen pan gewch gyfle.

Wrth edrych ymlaen i fis Medi 2023 carwn eich hysbysu y bydd y staff yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Gwener, Medi 1af ar gyfer Hyfforddiant mewn Swydd. Bydd dydd Llun, Medi 4ydd hefyd yn ddiwrnod HMS, ac fe fydd ein disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Mawrth Medi 5ed.

Mwynhewch y gwyliau Haf bawb ac edrychwn ymlaen i'ch gweld ym mis Medi.

 

Firstly we would like to thank you pupils, parents, staff, governors and all members of our school community for your support over the past year.

The pupils have benefited enormously in their learning and extra-curricular experiences through the continuous dedication of our staff, and the community has greatly enriched these learning experiences by welcoming the school on educational visits and by individuals visiting the school to share interesting and stimulating experiences.

We offer our best wishes to our administrative officer; Mrs Mererid Morgan, who retires today after many years of service to the school. Thank you Mererid for dedication to Carreg Hirfaen - feet up now and enjoy your leisure time in the garden.

Good luck also to our year 6 pupils who are moving on to year 7 at Ysgol Bro Pedr, Ysgol Bro Dinefwr and Ysgol Bro Teifi. Thank you for your hard work over the years and remember to call back to see us at Carreg Hirfaen when you get the chance.

Looking forward to September 2023 we would like to inform you that the staff will return to school on Friday, September 1st for In-Service Training. Monday, September 4th will also be an INSET day, and our pupils will return to school on Tuesday September 5th.

Enjoy the Summer holidays everyone and we look forward to seeing you in September.

 

Diolch / Thank You

Aled Jones Evans

Top