School Logo

Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen Primary School

"Dyfal Donc a Dyr y Garreg"

Contact Details

Latest News

Dyma newyddion diweddaraf yr ysgol.

Here you will find the latest School news.

  • ADRODDIAD AROLWG ESTYN INSPECTION REPORT

    Thu 06 Jul 2023
    ADRODDIAD AROLWG ESTYN INSPECTION REPORT
    06/07/23

    Mae adroddiad arolygu Estyn a chrynodeb o'r adroddiad i rhieni a gofalwyr wedi eu cyhoeddi heddiw ac ar gael i'w darllen ar wefan Estyn - dilynwch y ddolen isod: (Ysgol Carreg Hirfaen | Estyn (llyw.cymru))

     

    The Estyn inspection report and parent and carers summary have been published today and are available on the Estyn website (use the following link: (http://www.estyn.gov.wales/provider/6692386)

  • Lluniau Grwp Ysgol - School Group Photos

    Mon 19 Jun 2023

    Lluniau Grwp Ysgol - School Group Photos

    Archebwch eich lluniau grwp trwy ddilyn y ddolen isod. Bydd angen i chi ddefnyddio'r cod mynediad a nodir.

    Order your School Group Photos online by using the following link. You will need to use the access code to login and make your order.

  • LLUN YSGOL GYFAN / LLUN DOSBARTH WHOLE SCHOOL PHOTO / CLASS PHOTO

    Tue 06 Jun 2023
    LLUN YSGOL GYFAN / LLUN DOSBARTH
    WHOLE SCHOOL PHOTO / CLASS PHOTO
    LLUN YSGOL GYFAN / LLUN DOSBARTH
    WHOLE SCHOOL PHOTO / CLASS PHOTO
    Bydd y ffotograffydd ysgol gyda ni yn Carreg Hirfaen yfory (dydd Mercher, Mehefin 7fed) yn tynnu llun Ysgol Gyfan a lluniau grwp dosbarth.
    Bydd angen i'r plant ddod i'r ysgol yn eu gwisg ysgol yfory ac fe fydd y disgyblion hynny sydd efo gwers chwaraeon yn medru newid i'w gwisg chwaraeon yn ystod y dydd.
    
    The school photographer will be at Carreg Hirfaen tomorrow (Wednesday June 7th) taking a whole school and class group photos.
    All pupils will therefore need to wear school uniform to school in the morning and those pupils with games lessons will change into their PE kit during the day.
  • Lluniau Ysgol - School Photos

    Tue 23 May 2023
    LLUNIAU YSGOL - SCHOOL PHOTOS

    12/06/23

    Bydd y ffotograffydd ysgol gyda ni yn Carreg Hirfaen yn tynnu lluniau unigol o'r plant a/neu lluniau teulu ar fore dydd Llun, Mehefin 12fed.

     

    The school photographers will be at Carreg Hirfaen on Monday June 12th. They will be taking individual and/or family photos.

  • NOSON RHIENI - PARENTS EVENING

    Thu 11 May 2023
    TREFNIADAU NOSON RHIENI - PARENTS EVENING ARRANGEMENTS
    23/05/23 - 24/05/23
    Y tymor hwn bydd ein Nosweithiau Rhieni unwaith eto yn cael eu cynnal yn neuadd yr ysgol - wyneb i wyneb gydag athrawes ddosbarth eich plentyn. Bydd cyfle gennych i bori llyfrau gwaith eich plentyn yn gyntaf cyn trafod ei gynnydd/chynnydd a'r camau nesaf yn y dysgu efo'r athrawes. Bydd y nosweithiau yn rhedeg rhwng 3.30pm a 6.30pm. Byddwch yn medru archebu slot amser ar gyfer cyfarfod eich athro dosbarth trwy ein system parents-booking.com logiwch mewn trwy'r ddolen isod:
    https://parents-booking.co.uk/login.jsp
     
     
    This term our Parents' Evenings will be held in person with your child's class teacher at the school. You will have the opportunity to browse your child's workbooks before discussing their progress and next steps in learning with the teacher. Both evenings will run from 3.30pm until 6.30pm. You will be able to book a time slot for meeting your class teacher through our parents-booking.com system. Log in using the following address:
    https://parents-booking.co.uk/login.jsp
  • ESTYN - CYFARFOD RHIENI - PARENTS MEETING

    Tue 02 May 2023
    ESTYN

     

    CYFARFOD RHIENI - PARENTS MEETING

    (2/5/23)

    3.45pm

    Gwahoddir rhieni disgyblion yr ysgol i gyfarfod swyddogion Estyn ar bnawn dydd Mawrth nesaf. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn yr ysgol ac yn dechrau am 3.45pm.

    Carreg Hirfaen parents are invited to a meeting with Estyn officers next Tuesday afternoon (2/5/23). The meeting will be at the school and will start at 3.45pm.

  • Arolwg Estyn Inspection

    Tue 18 Apr 2023

    Bydd ysgol Carreg Hirfaen yn cael ei harolygu gan Estyn rhwng dydd Mawrth, Mai 2il a dydd Gwener, Mai 5ed 2023.

    Fel rhan o'r broses arolygu, rhoddir cyfle i rhieni lenwi holiadur am yr ysgol.

    I gael mynediad i'r holiadur dilynwch y ddolen ganlynol neu sganiwch y Cod QR i'w hagor. Ar ol cwblhau'r holiadur dewiswch y botwm 'Submit' apeidiwch a gwasgu'r ddolen 'Back'. Bydd dewis y ddolen 'Back' yn creu anhawsterau i Estyn wrth ddadansoddi'r holiaduron.

    https://www.smartsurvey.co.uk/s/OFUMYL/

    Bydd angen cwblhau'r holiadur erbyn dydd Sul Ebrill 23ain 2023.

     

    Carreg Hirfaen will be inspected by Estyn between Tuesday, May 2nd and Friday, May 5th 2023.

    As part of the inspection process, parents are given the opportunity to fill in a questionnaire about the school.

    To access the questionnaire follow the link below or scan the QR Code.

    After completing the questionnaire select the 'Submit' button and do not press the 'Back' button as it will create difficulties for Estyn when analyzing the questionnaires.

    https://www.smartsurvey.co.uk/s/OFUMYL/

    The questionnaire will need to be completed by Sunday, April 23rd 2023.

     

    Diolch - Thank you

    Aled Jones Evans

  • Noson Addysgiadol - Educational Evening

    Tue 28 Mar 2023

    NOS YFORY - TOMORROW NIGHT

    29/03/23

     

    Carwn eich atgoffa am ein noson Addysgiadol nos yfory i gychwyn am 6.30pm yn neuadd yr Ysgol. Bydd aelodau'r PTA yn darparu lluniaeth ysgafn yn ystod y noson.

    A reminder that you are all welcome to join us at our Educational Evening tomorrow night at the school. It will start at 6.30pm and the PTA will be providing refreshments during the evening.

  • HMS - INSET

    Mon 27 Mar 2023
    HMS - INSET
    DYDD LLUN, 17EG EBRILL 2023
    MONDAY, APRIL 17TH 2023

    Bydd hyfforddiant mewn swydd nesaf yr ysgol yn cael ei gynnal ar ddydd Llun Ebrill 17eg 2023 ac yn canolbwyntio ar Cymhwysedd Digidol ac agweddau o'r Cwricwlwm Newydd. Ni fydd disgyblion yn mynychu'r ysgol ar y diwrnod hwn felly ac yn dychwelyd ar ddydd Mawrth, Ebrill 18fed 2023.

     

    Our next INSET day will be held on Monday April 17th 2023 and will focus on developing Digital Competence and certain aspects of the new Curriculum for Wales. Pupils will return to school the following day on Tuesday, April 18th 2023.

  • NOSON ADDYSGIADOL - EDUCATIONAL EVENING

    Tue 14 Mar 2023
    NOSON ADDYSGIADOL - EDUCATIONAL EVENING

    29/03/23

    Cynhelir Noson Addysgiadol yn yr ysgol ar nos Fercher, Mawrth 29ain i ddechrau am 6.30pm.

    Cyflwynir gwybodaeth i rhieni am y cwricwlwm newydd ac am y gwahanol ffyrdd y gallant gefnogi eu plant yn eu dysgu trwy hyrwyddo gwahanol weithgareddau yn y cartref. Noson i'r rhieni yw hon wrth gwrs ac nid i'r plant.

    Ffocws y noson yw:

    • Y Cwricwlwm Newydd

    • Sumdog - Datblygu Medrau Mathemateg a Rhifedd plant

    • Cefnogi Medrau Darllen eich plant

    • Cefnogi Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol disgyblion

    EDUCATIONAL EVENING

    An Educational Evening for parents will be held at the school on Wednesday, March 29th starting at 6.30pm.

    Information will be presented to parents about the new curriculum and the different ways they can support their children's learning by promoting various activities at home.

    The focus will be on:

    • The New Curriculum

    • Sumdog - Developing Children's Mathematics and Numeracy Skills

    • Supporting your children's Reading Skills

    • Supporting pupils' Mental Health and Emotional Wellbeing

    Cofiwch gefnogi'r noson - Please support the evening.

    Diolch - Thank you

    Aled Jones Evans

Top