School Logo

Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen Primary School

"Dyfal Donc a Dyr y Garreg"

Contact Details

Latest News

Dyma newyddion diweddaraf yr ysgol.

Here you will find the latest School news.

  • Ymwybyddiaeth 'Strep A' Awareness

    Fri 10 Mar 2023
    Achosion Lleol o Strep A
    Efallai y byddwch yn ymwybodol am gynnydd diweddar yn nifer yr hysbysiadau a gafwyd o’r dwymyn goch a’r clefyd streptococol ymledol. Plant o dan 10 oed sy’n cael eu heffeithio gan yr haint hwn yn bennaf, ac felly gall achosion ohono ddigwydd mewn ysgolion a meithrinfeydd. Bydd plant hŷn hefyd yn dueddol o gael dolur gwddf streptococol, ond efallai na fyddan nhw’n cael brech y dwymyn goch.
    Arwyddion a symptomau’r dwymyn goch 
    Mae’r dwymyn goch, a elwir weithiau’n scarlatina, yn glefyd heintus sy’n cael ei achosi gan facteria streptococws grŵp A (GAS) (a elwir hefyd yn Streptococcus pyogenes). Mae'n heintus iawn a gellir ei ddal drwy gysylltiad uniongyrchol ag unigolyn sydd wedi’i heintio neu drwy'r aer o ddiferion o beswch neu disian. Symptom nodweddiadol y dwymyn goch yw brech binc fân ar draws y corff sy'n teimlo fel papur gwydrog i’w gyffwrdd. Mae symptomau eraill yn cynnwys tymheredd uchel, wyneb gwritgoch a thafod coch, chwyddedig. 
    Mae’r driniaeth yn syml ac fel arfer mae’n cynnwys rhoi cwrs o wrthfiotigau penisilin.
    
    Cymhlethdodau’r dwymyn goch a’r haint streptococol
    Nid yw'r rhan fwyaf o achosion o’r dwymyn goch yn achosi unrhyw gymhlethdodau, yn enwedig os yw'r cyflwr yn cael ei drin yn iawn. Fodd bynnag, gall cymhlethdodau ddigwydd yn ystod cyfnod cynnar y clefyd, gan gynnwys haint yn y glust, casgliad yn y gwddf, sinwsitis, niwmonia a llid yr ymennydd. 
    
    Y camau a argymhellir
    • Dylid cynghori rhieni plant sy’n sâl i gael cyngor meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth.
    • Dylai person sydd â’r dwymyn goch gadw o’r ysgol am 24 awr ar ôl cychwyn triniaeth wrthfiotig briodol.
    • Gall hylendid dwylo da ac osgoi lledaenu diferion anadlol (fel gyda’r ffliw- "ei ddal, ei daflu, ei ddifa") helpu i atal yr haint rhag lledaenu

     

    AWARENESS OF STREP-A SYMPTOMS

    You may be aware of an increase in notifications of scarlet fever and invasive streptococcal disease locally. This infection mostly affects children aged under 10 years, and so outbreaks can occur in schools and nurseries. Older children are also susceptible to streptococcal sore throats but may not have the rash of scarlet fever. Signs and symptoms of scarlet fever Scarlet fever, sometimes called scarlatina, is an infectious disease caused by group A streptococcus (GAS) bacteria (also known as Streptococcus pyogenes). It is highly infectious and can be caught through direct contact with an infected person or through the air via droplets from coughs or sneezes. The characteristic symptom of scarlet fever is a widespread, fine pink-red rash that feels like sandpaper to touch. Other symptoms include a high temperature, a flushed face and a red, swollen tongue. Treatment is straightforward and usually involves a course of penicillin antibiotics. Complications of scarlet fever and streptococcal infection Most cases of scarlet fever cause no complications, especially if the condition is properly treated. However, complications in the early stages of the disease can include ear infection, throat abscess, sinusitis, pneumonia and meningitis. Recommended actions • Parents of unwell children should seek medical advice for diagnosis and treatment • A person with scarlet fever should withdraw from schools / settings for 24 hours after the commencement of appropriate antibiotic treatment • Good hand hygiene and avoidance of spread of respiratory secretions (as per influenza- “catch it, bin it, kill it”) can help to prevent the spread of infection

  • PARÊD GŴYL DEWI - ST DAVIDS DAY PARADE

    Thu 02 Mar 2023

    PARÊD GŴYL DEWI - ST DAVIDS DAY PARADE

    Cynhelir Parêd Gŵyl Dewi Llanbed ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Fawrth 2023. Fel yr arfer, bydd y Parêd yn dechrau am 11.00 o’r gloch o Ysgol Bro Pedr, Llanbed, yn ymlwybro drwy’r dref, ac yn gorffen ar gampws Prifysgol Llanbed. Yno, bydd Siani Sionc a chôrau lleol yn diddanu pawb ynghyd â lluniaeth ysgafn i bawb.

    Bydd cynrychiolaeth o Bwyllgor Rhieni Athrawon Carreg Hirfaen yn bresennol dydd Sadwrn ac anogwn unrhyw blant o'r ysgol sy'n gorymdeithio i gasglu ynghyd a cherdded gyda'n gilydd.

    Anogir pawb sy'n mynychu i wisgo gwisg Gymreig neu ddilledyn coch i ddathlu gŵyl ein nawddsant. Byddai’n braf hefyd os gall plant gario baner Cymru yn ystod yr orymdaith.

    Llinos Jones, cyn-bennaeth cynorthwyol Ysgol Bro Pedr fydd yn arwain yr orymdaith eleni.

    ***********************************************************************

    The Lampeter St David's Day Parade will be held this Saturday the 4th of March 2023. As usual, the Parade will start at 11.00 o'clock from Ysgol Bro Pedr, make its way through the town, and finish at the Lampeter University campus . There, Siani Sionc and local choirs will entertain along with light refreshments for everyone.

    We encourage all who attend to wear Welsh dress or red clothing to celebrate our patron saint's festival. It would also be nice if children attending can carry the Welsh flag during the parade.

    Representatives from Carreg Hirfaen's Parent Teacher Association will be present on Saturday and we encourage any children from the school who are marching to gather and walk together.

    Llinos Jones, former assistant principal of Ysgol Bro Pedr will lead the parade this year.

  • EISTEDDFOD DYDD GWYL DEWI - ST DAVIDS DAY EISTEDDFOD

    Tue 28 Feb 2023
    GWISG DYDD GWYL DEWI - ST DAVIDS DAY COSTUME

    Gall ein disgyblion wisgo dillad o'u dewis i'r Eisteddfod yfory, hynny yw; gwisg draddodiadol Gymreig, crysau pel droed neu rygbi Cymru neu wisg sy'n cyfateb i'w timoedd yn yr Eisteddfod sef Coch (Iago), Gwyrdd (Dewi) neu Gwyn (Pedr).

     

    Our pupils can wear clothes of their choice to the Eisteddfod tomorrow, that is; traditional Welsh dress, Welsh football or rugby shirts or clothes corresponding to their team colours namely Red (Iago), Green (Dewi) or White (Pedr).

     

    CAPTEINIAID - TEAM CAPTAINS

    Llongyfarchiadau i'r canlynol ar gael eu dewis yn gapteiniaid ar gyfer ein Eisteddfod yfory:

    Congratulations to the following on being chosen as Team Captains for our Eisteddfod tomorrow:

    Dewi - Cadi Sion, Elin Lewis a Megan Thomas.

    Iago - Lynwen, Mair ac Elliott

    Pedr - Poppy, Cai a Tirion

  • 🏉 Rygbi’r Urdd / Urdd Rugby competition 🏉

    Fri 17 Feb 2023
    Mae cystadleuaeth rygbi’r Urdd wedi aildrefnu ar gyfer Dydd Llun Chwefror 27ain. Bws yn gadael yr ysgol am 8:55 ac yn dychwelyd erbyn amser mynd adref. Bydd angen pecyn bwyd, digon o ddiod a dillad/esgidiau addas. Diolch
     
    The Urdd rugby competition has been rearranged for Monday 27th of February. The bus will leave school at 8.55am and return by home time. Children will need a packed lunch, plenty of water and suitable clothes/shoes. Thank you.
  • Eisteddfod Dydd Gwyl Dewi

    Mon 13 Feb 2023
  • AMSERLEN EISTEDDFOD TIMETABLE

    Mon 13 Feb 2023
    AMSERLEN EISTEDDFOD TIMETABLE

    01/03/23

    9.15am - 9.45am: Adrodd a Canu Dosbarth Sawel

    9.45am - 10.15am: Adrodd a Canu Dosbarth Crwys

    10.15am - 10.45am: Adrodd a Canu Dosbarth Hathren

    10.45am - 11.15am: Adrodd a Canu Dosbarth Caio

    11.15am - 11.45am: Adrodd a Canu Dosbarth Rhos

    11.45am - 12.30pm: Adrodd a Canu Dosbarth Fana

     

    CINIO - LUNCH

     

    1.30pm - 2.00pm: Offerynnol Cerddorol / Musical Instruments

    2.00pm - 3.00pm: Seremoni Cadeirio / Chairing Ceremony

  • DIWRNODAU PONTIO YSGOL UWCHRADD BRO PEDR 2023 BRO PEDR YEAR 5 AND 6 TRANSITION DAYS

    Fri 10 Feb 2023
    DIWRNODAU PONTIO YSGOL UWCHRADD BRO PEDR 2023
    2023 BRO PEDR YEAR 5 AND 6 TRANSITION DAYS

     

    • Diwrnod i ddisgyblion blwyddyn 6 :- 27/6/23

    • A day for Year 6 pupils :- 27/6/23

     

    • Noson Groeso i rieni disgyblion blwyddyn 6:- 11/7/23

    • Welcome An Evening to welcome Year 6 pupils:- 11/7/23

     

    • Diwrnod i ddisgyblion blwyddyn 5 :- 10/7/23

    • A day for Year 6 pupils :- 10/7/23

     

    Rhennir mwy o wybodaeth gyda chi yn agosach i'r diwrnodau pontio.

    Further information will be shared with you closer to the transition days.

  • Ysgol ar Gau - School Closed

    Fri 20 Jan 2023
    20/01/23

    Yn anffodus bydd yr ysgol ar gau heddiw eto oherwydd cyflwr peryglus yr hewl sydd yn arwain lawr at yr ysgol.

    Bydd gwaith wedi ei osod i'r plant yn 'My files' /'Fy ffeiliau' ar J2e (Hwb) erbyn 9am bore ma. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

    Unfortunately the school will remain closed today due to the dangerous road conditions leading down to the school.

    Work for the pupils to complete today will be placed in 'My files' on J2e which can be accessed from your child's Hwb account. The work will be uploaded by 9am. Apologies for the inconvenience.

  • YSGOL AR GAU - SCHOOL CLOSED

    Wed 18 Jan 2023

    YSGOL AR GAU - SCHOOL CLOSED

    Ni fydd yr ysgol ar agor heddiw gan fod yr eira yn ystod y nos wedi gwneud yr hewl a'r llwybr i lawr at yr ysgol yn beryglus tu hwnt. Er i ni daenu graean pnawn ddoe mae'r lôn yn slic iawn a cerbyd wedi colli rheolaeth wrth ddod lawr at yr ysgol bore ma. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra ond mae'n rhaid rhoi diogelwch pawb yn gyntaf.

     

    The school will not be open today as the snow during the night has made the road and the path down to the school extremely dangerous.

    Although we spread gritted salt late yesterday afternoon the lane is very slick and a vehicle lost control when coming down to the school this morning. Apologies for the inconvenience but everyone's safety must come first.

  • Holiadur Ysgol i Rhieni Carreg Hirfaen - School Questionnaire for Carreg Hirfaen Parents

    Fri 13 Jan 2023

    Holiadur Ysgol i Rhieni Carreg Hirfaen - School Questionnaire for Carreg Hirfaen Parents

     

    Would you mind completing this questionnaire to help us with our school self-evaluation processes please?

    A fyddech chi yn medru ein helpu i hunan-werthuso trwy lenwi'r holiadur os gwelwch fod yn dda?

    It would be great if you can submit your response by 18/01/2023.

     

    https://forms.office.com/e/wDgTzGF1sp

     

    Diolch - Thank you!

Top