Asesiadau Cenedlaethol - National Assessments
Tros yr wythnosau nesaf, gan ddechrau dydd Llun Mehefin 17eg, byddwn yn cynnal asesiadau efo disgyblion blynyddoedd 2, 3, 4, 5 a 6 yr ysgol.
Bydd yr asesiadau yn ein cynorthwyo i adnabod cryfderau pob disgybl a'n harwain wrth i ni baratoi gweithgareddau addas ar eu cyfer bydd yn diwallu eu hanghenion ym meysydd Llythrennedd a Rhifedd.
Rydym yn arferol yn asesu'n ffurfiannol o leiaf ddwy waith y flwyddyn gan ddefnyddio profion masnachol addas a brynir gan yr ysgol ac hefyd yn defnyddio Profion ar-lein Cenedlaethol a rannwyd efo ysgolion trwy HWB.
Cyflwynir y gweithgareddau asesu yma mewn modd sensitif, cefnogol a gofalgar fel rhan o'n gweithgareddau dydd i ddydd. Ni wneir dim ffws ynglyn â'r profion ac ni fynnwn i'r disgyblion gael rheswm i boeni amdanynt. Rwy'n pwysleisio taw y peth olaf yr ydym am ei wneud yw gosod ein plant tan bwysau emosiynol trwm mewn cyfnod sydd wedi bod mor anodd a heriol iddynt.
Carwn i chi felly i gefnogi llês eich plentyn trwy bwysleisio iddo/iddi na ddylai boeni am yr asesiadau. Ni rennir y canlyniadau nag unrhyw ddata sy'n ymwneud â'r asesiadau gydag unrhyw asiantaeth allanol - fe'u defnyddir yn unig i fwydo cynllunio yr athrawon a'ch gwneud chi fel rhieni yn hysbys o gynnydd eich plentyn ac arwain y camau nesaf yn addysg eich plentyn.
Over the next few weeks, starting on Monday, June 17th, we will be conducting National Reading (Welsh and English) and Numeracy Assessments with pupils in years 2, 3, 4, 5 and 6. These assessments have a diagnostic purpose that will help us identify each pupil's strengths and guide us as we prepare suitable activities for them that will meet their Literacy and Numeracy needs.
We assess formatively at least twice a year using commercial tests purchased by the school as well as the National Reading and Numeracy Tests that are shared with schools digitally via HWB.
The assessment activities will be delivered in a sensitive, supportive and caring way as part of our day to day activities. We do not want our pupils to worry about them.
I would therefore urge you to support your child's welfare by stressing to him / her that he / she should not be concerned about these assessments. The results and any data relating to the assessments will not be shared with any external agencies - they will only be used to inform teachers' planning and to inform you as parents of your child's progress and help identify the next steps in your child's learning.
Diolch - Thank you
Aled Jones Evans