PWYSIG: YMGYNGHORIAD ARDAL DALGYCH YSGOL
IMPORTANT: SCHOOL CATCHMENT CONSULTATION
Annwyl rieni a gofalwyr,
Dear Parents and Carers,
Mae’n bwysig iawn eich bod yn cwblhau’r arolwg ymgynghori sy’n ymwneud â newidiadau arfaethedig sylweddol i ardal ddalgylch yr ysgol a’r trefniadau cludiant disgyblion i’w galluogi i fynychu addysg uwchradd.
It is very important that you complete the consultation survey regarding significant proposed changes to the school catchment area and the resulting pupil transport arrangements for accessing secondary education.
Mae Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin yn cynnig gwneud Ysgol Bro Dinefwr (Llandeilo) yn ysgol uwchradd dalgylch dynodedig ar gyfer holl ddisgyblion Carreg Hirfaen sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin. Os cânt eu cyflwyno, bydd y newidiadau hyn yn cael effaith sylweddol ar ein cymuned yn y blynyddoedd i ddod.
Carmarthenshire Local Authority is proposing that Ysgol Bro Dinefwr (Llandeilo) becomes the designated catchment secondary school for all Carreg Hirfaen pupils living in Carmarthenshire. If introduced, these changes will have a significant impact on our community in the years ahead.
O dan y newidiadau arfaethedig hyn, o 2027/28 ymlaen ni fyddai disgyblion sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim i Ysgol Bro Pedr. Byddai cludiant am ddim ond ar gael i Ysgol Bro Dinefwr.
Under the proposed changes, from 2027/28 pupils living in Carmarthenshire would no longer be entitled to free school transport to Ysgol Bro Pedr. Free transport would only be provided to Ysgol Bro Dinefwr.
Cyn cwblhau’r holiadur, gofynnwn i chi ystyried yn ofalus effaith y newidiadau hyn ar deuluoedd Carreg Hirfaen.
Before completing the questionnaire, please carefully consider how these changes may affect Carreg Hirfaen families.
O 2027/28, os ydych yn dymuno i’ch plentyn fynychu Ysgol Bro Pedr, bydd angen i chi eu gyrru i’r ysgol bob dydd drwy gydol eu haddysg uwchradd. Yr unig ddewis arall fyddai’r siwrnai hirfaith ar y bws i Ysgol Bro Dinefwr.
From 2027/28, if you wish your child to attend Ysgol Bro Pedr, you would need to transport them daily for the duration of their secondary education. The only alternative would be the much longer bus journey to Ysgol Bro Dinefwr.
Mae hyd y daith hon ar fws ysgol a natur droellog yr hewl yn peri pryder mawr i ni wrth gwrs. Gallai’r daith effeithio’n negyddol ar les eich plentyn ac, o ganlyniad, ar eu cynnydd addysgol hir-dymor.
The length of this journey is a serious concern. This twice‑daily journey may negatively affect your child's wellbeing and, potentially, their long‑term educational progress.
Gofynnwn yn garedig i chi gwblhau’r holiadur isod a’i rhannu yn ogystal gyda teulu ac aelodau eraill o'n cymuned ysgol.
Please complete the questionnaire and share it with family and other members of our school community.
Mae’r ymgynghoriad yn cau ar Chwefror 27ain 2026.
The consultation closes on February 27th 2026.
Diolch – Thank you