School Logo

Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen Primary School

"Dyfal Donc a Dyr y Garreg"

Contact Details

Covid - Gwybodaeth am Hunan-ynysu / Self Isolation Guidelines

(Rheoliadau ers dechrau Medi 2021)

OS OES GENNYCH CHI UNRHYW RAI O SYMPTOMAU’R CORONAFEIRWS (TYMHEREDD UCHEL, PESWCH CYSON NEWYDD, COLLI BLAS NEU AROGL – NEU NEWID YN Y SYNHWYRAU HYNNY), DYLECH HUNANYNYSU GARTREF A CHAEL PRAWF. NI DDYLECH FYND I FEDDYGFA, FFERYLLFA NAC YSBYTY.

 

Mae hunanynysu yn golygu nad ydych chi’n gadael y tŷ. Dylech hunanynysu ar unwaith os oes gennych chi symptomau a pharhau i hunanynysu hyd nes y cewch ganlyniad prawf PCR COVID-19.

Os ydych wedi cael canlyniad positif am COVID-19, neu os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru wedi gofyn i chi hunanynysu, rhaid i chi aros gartref. Rydych chi’n torri’r gyfraith a gallech chi gael dirwy os nad ydych chi’n aros gartref ac yn hunanynysu.

 

Y cyfnod hunanynysu yw 10 diwrnod ers:

  • y diwrnod yn syth ar ôl y dyddiad y dechreuodd eich symptomau

  • y diwrnod yn syth ar ôl dyddiad eich prawf positif, neu’r dyddiad a gadarnhawyd i chi gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu os cawsoch eich nodi fel cyswllt agos i rywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19.

  • Mae hunanynysu yn berthnasol i oedolion a phlant o bob oed.

 

O 7 Awst 2021 ymlaen, nid yw oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn ac a gafodd y brechlyn yn y DU, na phobl ifanc o dan 18 oed, yn gorfod hunanynysu os ydynt yn cael eu nodi fel cyswllt agos i rywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19.

 

Bydd gofyn i chi gymryd profion PCR ar ddiwrnod 2 ar ôl eich cysylltiad diwethaf â’r achos positif (neu cyn gynted â phosibl) ac ar ddiwrnod 8. Mae’n bwysig eich bod yn cymryd y profion hyn hyd yn oed os ydych yn teimlo’n iawn – mae’n bosibl y bydd gennych COVID-19 hyd yn oed os nad oes gennych symptomau.

Bydd y rhai nad yw’n ofynnol iddynt hunanynysu mwyach hefyd yn cael cyngor ac arweiniad gan y swyddogion olrhain cysylltiadau ynglŷn â sut i ddiogelu eu hunain, gan gynnwys:

  • Ceisio lleihau cysylltiad ag eraill ac osgoi lleoedd prysur, yn enwedig o dan do

  • Ystyried defnyddio profion llif unffordd yn fwy rheolaidd neu bob dydd yn ystod y cyfnod pan fyddech fel arall wedi bod yn hunanynysu

  • PEIDIO ag ymweld â phobl agored i niwed megis y rhai mewn cartrefi gofal neu ysbytai

  • Gweithio gartref os nad ydych eisoes yn gwneud hynny

  • Rhoi gwybod i’ch cyflogwr eich bod wedi dod i gysylltiad ag achos o COVID-19

  • Gwneud ymdrech ychwanegol i sicrhau’ch bod yn golchi’ch dwylo’n drylwyr ac yn rheolaidd ac yn gwisgo gorchudd wyneb

  • Os ydych yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi gymryd profion ychwanegol rhag ofn neu’n gofyn i chi wneud rôl arall dros dro, fel yr awgrymir yn y canllawiau o’r enw Cysylltiadau COVID-19: canllawiau i staff iechyd a gofal cymdeithasol

Os byddwch yn datblygu symptomau COVID-19 unrhyw bryd, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, ac ni waeth beth fo’ch oedran na’ch statws brechu, dylech hunanynysu ar unwaith a threfnu prawf PCR COVID-19.

 

Os ydych dros 18 oed, ac nad ydych wedi cael cwrs llawn o frechlyn COVID-19 yn y DU, dylech hunanynysu am 10 diwrnod:

  • os byddwch yn datblygu symptomau COVID-19, ni waeth pa mor ysgafn ydynt (a dylech archebu prawf)

  • os ydych yn byw gyda rhywun sydd wedi datblygu symptomau COVID-19 ac sy’n aros am ganlyniad prawf PCR

  • os ydych yn byw gyda rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19

  • os yw’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi cysylltu â chi i ddweud wrthych am hunanynysu gan eich bod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19

 

(Regulations as from September 2021)

IF YOU HAVE ANY CORONAVIRUS SYMPTOMS (A HIGH TEMPERATURE, A NEW CONTINUOUS COUGH OR A LOSS OR CHANGE OF TASTE OR SMELL), YOU SHOULD SELF-ISOLATE AT HOME AND GET A TEST. YOU SHOULD NOT GO TO A GP SURGERY, PHARMACY OR HOSPITAL.

Self-isolation means that you do not leave the house. You should self-isolate straight away if you have symptoms and until you receive the results of a COVID-19 PCR test.

 

If you have tested positive for COVID-19, or have been told to self-isolate by the NHS Wales Test, Trace, Protect (TTP) service, you must stay at home. You are breaking the law and could be fined if you do not stay at home and self-isolate.

 

The self-isolation period is 10 days from either:

  • the day immediately following the date of the start of your symptoms

  • the day immediately following the date of your positive test, or

  • the date confirmed to you by the TTP service if they identify you as a close contact of someone who has tested positive for COVID-19

 

Self-isolation applies to adults and children of all ages.

 

As of 7 August 2021, adults who have been fully vaccinated and received the vaccine in the UK and those under the age of 18 will no longer have to self-isolate if they are identified as close contacts of someone who has tested positive for COVID-19. You will be asked to take PCR tests on Day 2 from your last contact with the positive case (or as soon as possible) and on Day 8. It is important that you take these tests even if you feel well, you may have COVID-19 even if you do not have symptoms.

 

Those who are no longer required to self-isolate will also receive advice and guidance from TTP contact tracers about how to protect themselves as follows:

  • Try to minimise contact with others and avoid crowded settings, particularly indoor settings

  • Consider using lateral flow tests on a daily/ more regular basis for the time you would otherwise have been self-isolating

  • DO NOT visit vulnerable people such as those in care homes or hospitals.

  • Work from home if you are not already doing so

  • Inform your employer that you are a contact of case of COVID-19.

  • Pay extra attention to thorough and regular hand washing and wearing a face covering

  • If you work in the Health and Social Care sector your employer may ask you to take additional tests as a precaution or temporarily ask you to undertake an alternative role as outlined in the COVID-19 contacts: guidance for health and social care staff

 

If you develop COVID-19 symptoms at any point, no matter how mild, regardless of your age or vaccine status, you should immediately self-isolate and arrange a COVID-19 PCR test.

 

If you are over the age of 18, and have not received a full course of COVID-19 vaccination in the UK, you should self-isolate for 10 days if:

  • you develop COVID-19 symptoms, no matter how mild (and you should book a test)

  • you live with someone who has developed COVID-19 symptoms and they are awaiting the outcome of a PCR test

  • you live with someone who has tested positive for COVID-19

  • you have been contacted by the TTP service and told to self isolate because someone you have had close contact with has tested positive for COVID-19

Top