School Logo

Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen Primary School

"Dyfal Donc a Dyr y Garreg"

Contact Details

Trefniadau Tymor yr Hydref 2021 - School Arrangements for Autumn term 2021

Annwyl Riant/Gwarcheidwad,

Gobeithio eich bod chi a'ch teulu wedi cael cyfle i fwynhau’r gwyliau haf. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad with i ni addasu a dygymod tros y deunaw mis diwethaf gyda goblygiadau ac effaith haint Covid-19 ar rediad yr ysgol. Wrth gwrs mae Covid-19 yn parhau i fod gyda ni yn y gymuned ac er ein bod am lacio rhywfaint ar rhai o’r cyfyngderau a roddwyd mewn lle tros y misoedd diwethaf mae Dyna gyfrifoldeb aroom o hyd i geisio lleihau’r ring o drosglwyddo’r haint o fewn ein cymuned ysgol.

Wrth i ni edrych ymlaen at groesawi’r disgyblion yn ôl i’r ysgol dydd Gwener yma, carwn rannu gwybodaeth efo chi am rai o drefniadau’r ysgol ar gyfer y tymor newydd.

 

Mygydau / Gorchudd Wyneb

Staff - Ar ddechrau'r tymor newydd, ni fyddwn mwyach yn argymell bod staff neu ddysgwyr yn gwisgo gorchuddion wyneb yn yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, efallai y bydd ysgolion a lleoliadau am annog eu defnydd mewn ardaloedd lle mae'n debygol y bydd mwy o gymysgu cymdeithasol, megis mewn ardaloedd cymunedol.

Rhieni - Rydym yn dal i ofyn i rieni wisgo gorchuddion wyneb wrth ollwng neu gasglu plant o'r ysgol. Anogir rhieni i wisgo gorchudd wyneb pan fyddwch yn ymgynnull wrth fynedfa’r ysgol yn y bore a’r prynhawn, ac ar unrhyw achlysur lle y byddwch yn ymweld a’r ysgol neu yn cwrdd â staff neu rhieni eraill ar dir yr ysgol.

 

Pellter Cymdeithasol

Disgwylir i bawb o gymuned yr ysgol i barhau parchu cadw pellter cymdeithasol wrth ei gilydd lle bo hynny yn bosib.

 

Swigod Dosbarth

Ni fyddwn yn cadw disgyblion yn gaeth i’w swigod dosbarth fel yr oedd y drefn cyn tymor yr Haf. Bydd achlysuron yn codi wrth gwrs pryd y bydd angen cadw dosbarthiadau ar wahan ond o ddechrau’r tymor yma bydd plant y gwahanol ddosbarthiadau yn medru cymysgu a chymdeithasu efo’i gilydd yn ystod amseroedd chwarae.

 

Glendid Dwylo

Mae disgwyl i blant yr ysgol i ddiheintio eu dwylo wrth y fynedfa yn foreol cyn cael mynediad i’r ysgol. Disgwylir i bob ymwelydd â’r ysgol ddieintio eu dwylo yn yr un modd.

 

Clwb Brecwast

Bydd Clwb Brecwast yr ysgol yn ail-agor i’n disgyblion ar ddydd Llun, Medi 6ed gan redeg o 8am hyd 8.30am yn neuadd yr ysgol. Bydd y disgyblion yn derbyn brecwast ac yna’n trosglwyddo o’r Clwb Brecwast i’w dosbarthiadau am 8.30am. Bydd plant yn cael mynediad i’r Clwb Brecwast trwy’r brif fynedfa gan gael eu tywys i’r neuadd gan aelod staff. Bydd angen i’r rhiant gofrestri ei plentyn yn y clwb brecwast wrth y brif fynedfa.

 

Trefn Bore

Yn y boreau ni fyddwn yn parhau efo’r drefn o dderbyn plant i’r ysgol mewn slotiau amser penodol ar gyfer y gwahanol ddosbarthiadau. O hyn ymlaen os bydd plentyn yn cyrraedd yr ysgol cyn 8.30am yna bydd yn mynychu’r clwb brecwast. Bydd unrhyw blentyn sydd yn cyrraedd yr ysgol ar ol 8.30am yn mynd yn syth i’w ddosbarth.

 

Trefn diwedd dydd

I gydymffurfio â gofynion y Sir o ran rheoli risg lledaeni Covid-19 yn y gymuned, ac er mwyn ein cynorthwyo ni i gadw torfeydd rhieni sy’n ymgasglu wrth fynedfa’r ysgol ar ddiwedd dydd i’r isafswm, bydd angen i rhieni disgyblion y Cyfnod Sylfaen gasglu eu plant am 3pm. Bydd angen i rhieni disgyblion cyfnod allweddol 2 gasglu eu plant am 3.15pm.

Os oes gan riant blentyn yn y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2 yna gall ef / hi gashlu'r ddau blentyn am 3pm. Bydd angen hysbysu staff o hyn.

 

Bws Ysgol

Bydd y bws Ysgol yn casglu disgyblion o’r ysgol fel arfer am 3.20pm

 

Clwb Gofal ar ol ysgol

Bydd Clwb Gofal Ysgol Carreg Hirfaen yn ail-ddechrau ar ddydd Llun, Medi 6ed, ac yn cynnig gofal i blant ysgol Carreg Hirfaen yn unig rhwng oriau 3pm a 6pm. I archebu lle i’ch plentyn yn y clwb gofal bydd angen i chi gysylltu â Dawn Mason o Feithrinfa Seren.

Carwn hefyd bwysleisio y gall y trefniadau yma ar gyfer Ysgol Carreg Hirfaen newid tros yr wythnosau nesaf wrth i ganllawiau Covid-19 y Sir a Llywodraeth Cymru gael eu diweddaru a’u haddasu. Byddwn yn ymateb i unrhyw newidiadau yn syth ac yn rhannu gwybodaeth pellach gyda chi mor gynted a sydd bosib.

 

Diolch yn fawr,

Aled Jones Evans

****************

Dear Parent / Guardian,

I hope you and your family have had the opportunity to relax over the past few weeks and have enjoyed the summer holidays.

Once again, I would like to thank you for your support and co-operation over the past eighteen months in adapting to the implications and impact of Covid-19 protocols on the running of the school.

Of course Covid-19 remains with us in the community and although we are relaxing some of the limitations that have been put in place over the past few months, we still have a responsibility to try and reduce the risk of transmission within our school community.

As we look forward to welcoming our pupils back to school this Friday, I would like to share with you some of the school's arrangements for the new term.

 

Masks / Face Covers

Staff - At the start of the new term, staff are no longer required to wear face coverings in the classroom. However, we will encourage their use in areas where there is likely to be more social mixing, such as in communal areas.

Parents - We still ask parents to wear face coverings when dropping off or picking up children from school. Parents are encouraged to wear a face cover when assembling at the school entrance in the morning and afternoon, and on any occasion when you visit the school and meet staff or other parents on the school grounds.

 

Social Distancing

Everyone from the school community is expected to continue respecting social distancing wherever possible.

 

Class Bubbles

We will no longer confine pupils to their classroom bubbles as was the case before the Summer holidays. There will of course be occasions when classes need to be kept separate but from the beginning of this term pupils from different classes will be able to mix and socialize with each other during lunchtime and playtimes.

 

Hand Sanitising

Pupils are expected to sanitise their hands at the school entrance in the morning before entering the school. All visitors to the school are expected to hand-sanitise in the same way.

 

Breakfast Club

The school Breakfast Club will re-open for our pupils on Monday, September 6th and will run from 8am until 8.30am in the school hall. Pupils will receive breakfast and then transfer from the Breakfast Club to their classes at 8.30am. Children will access the Breakfast Club through the main school entrance and will be escorted to the hall by a member of staff. The parent will need to register their child for the breakfast club at the main entrance.

 

Morning routine

In the mornings we will not be continuing with the procedure of admitting children to school in staggered time slots as was the case prior to the Summer holidays. From now on if a child arrives at school before 8.30am then he/she will attend the breakfast club. Any child who arrives after 8.30am will go straight to class.

 

End of day routine

To comply with the LEA's requirements for managing the risk of Covid-19 spreading in the community, and to help us keep the number of parents who gather at the school entrance at the end of the school day to a minimum, parents of foundation phase pupils will need to collect their children from school at 3pm. Parents of key stage 2 pupils will need to collect their children at 3.15pm.

If a parent has a child in both the foundation phase and key stage 2 then he/she can take both children at 3pm. Staff will need to be notified of this.

 

School Bus

The School bus will pick up pupils from school at 3.20pm

 

After School Care Club

Carreg Hirfaen After School Care Club will resume on Monday, September 6th, offering care to Carreg Hirfaen school pupils only between the hours of 3pm and 6pm.

To book your child into the care club you will need to contact Dawn Mason of Seren Nursery.

I should also emphasize that these arrangements may change over the coming weeks as the LEA and Welsh Government Covid-19 guidelines are updated and amended. We will respond to any changes immediately and share further information with you as soon as possible.

 

Thank you,

Aled Jones Evans

Top