School Logo

Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen Primary School

"Dyfal Donc a Dyr y Garreg"

Contact Details

Noticeboard

  • Pel Droed Dyffryn Cledlyn

    Fri 08 Sep 2023
  • Llythyr Dechrau Tymor CA2

    Fri 08 Sep 2023
  • Diwedd Tymor - Haf 2023 / Summer 2023 - End of Term

    Fri 21 Jul 2023

    Diwedd Tymor - End of Term

    Haf 2023 - Summer 2023

    Yn gyntaf carwn ddiolch i chi ddisgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a holl aelodau'n cymuned ysgol am eich cefnogaeth arbennig tros y flwyddyn ddiwethaf.

    Mae'r disgyblion wedi elwa'n aruthrol ar brofiadau dysgu ac allgyrsiol arbennig trwy ymroddiad parhaus ein staff, a'r gymuned wedi cyfoethogi'r profiadau dysgu yma yn enfawr trwy groesawu ymweliadau addysgiadol ac unigolion wedi ymweld a'r ysgol i rannu profiadau diddorol ac ysgogol efo'r plant.

    Diolchwn a dymunwn yn dda i'n swyddog gweinyddol; Mrs Mererid Morgan, sydd yn ymddeol heddi ar ol blynyddoedd lawer o wasanaeth i'r ysgol. Traed lan nawr Mererid a mwynhau eich amser hamdden yn yr ardd.

    Pob lwc hefyd i'n disgyblion blwyddyn 6 sydd yn symud ymlaen i flwyddyn 7 yn Ysgol Bro Pedr, Ysgol Bro Dinefwr ac Ysgol Bro Teifi. Diolch i chi am eich gwaith caled ar hyd y blynyddoedd a cofiwch alw nol i'n gweld yn Carreg Hirfaen pan gewch gyfle.

    Wrth edrych ymlaen i fis Medi 2023 carwn eich hysbysu y bydd y staff yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Gwener, Medi 1af ar gyfer Hyfforddiant mewn Swydd. Bydd dydd Llun, Medi 4ydd hefyd yn ddiwrnod HMS, ac fe fydd ein disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Mawrth Medi 5ed.

    Mwynhewch y gwyliau Haf bawb ac edrychwn ymlaen i'ch gweld ym mis Medi.

     

    Firstly we would like to thank you pupils, parents, staff, governors and all members of our school community for your support over the past year.

    The pupils have benefited enormously in their learning and extra-curricular experiences through the continuous dedication of our staff, and the community has greatly enriched these learning experiences by welcoming the school on educational visits and by individuals visiting the school to share interesting and stimulating experiences.

    We offer our best wishes to our administrative officer; Mrs Mererid Morgan, who retires today after many years of service to the school. Thank you Mererid for dedication to Carreg Hirfaen - feet up now and enjoy your leisure time in the garden.

    Good luck also to our year 6 pupils who are moving on to year 7 at Ysgol Bro Pedr, Ysgol Bro Dinefwr and Ysgol Bro Teifi. Thank you for your hard work over the years and remember to call back to see us at Carreg Hirfaen when you get the chance.

    Looking forward to September 2023 we would like to inform you that the staff will return to school on Friday, September 1st for In-Service Training. Monday, September 4th will also be an INSET day, and our pupils will return to school on Tuesday September 5th.

    Enjoy the Summer holidays everyone and we look forward to seeing you in September.

     

    Diolch / Thank You

    Aled Jones Evans

  • ADRODDIAD AROLWG ESTYN INSPECTION REPORT

    Thu 06 Jul 2023
    ADRODDIAD AROLWG ESTYN INSPECTION REPORT
    06/07/23

    Mae adroddiad arolygu Estyn a chrynodeb o'r adroddiad i rhieni a gofalwyr wedi eu cyhoeddi heddiw ac ar gael i'w darllen ar wefan Estyn - dilynwch y ddolen isod: (Ysgol Carreg Hirfaen | Estyn (llyw.cymru))

     

    The Estyn inspection report and parent and carers summary have been published today and are available on the Estyn website (use the following link: (http://www.estyn.gov.wales/provider/6692386)

  • Lluniau Grwp Ysgol - School Group Photos

    Mon 19 Jun 2023

    Lluniau Grwp Ysgol - School Group Photos

    Archebwch eich lluniau grwp trwy ddilyn y ddolen isod. Bydd angen i chi ddefnyddio'r cod mynediad a nodir.

    Order your School Group Photos online by using the following link. You will need to use the access code to login and make your order.

  • Gwybodaeth Gwersyll Caerdydd / Cardiff Information

    Wed 07 Jun 2023
  • Nodyn Atgoffa Caerdydd / Cardiff Reminder

    Wed 07 Jun 2023
  • LLUN YSGOL GYFAN / LLUN DOSBARTH WHOLE SCHOOL PHOTO / CLASS PHOTO

    Tue 06 Jun 2023
    LLUN YSGOL GYFAN / LLUN DOSBARTH
    WHOLE SCHOOL PHOTO / CLASS PHOTO
    LLUN YSGOL GYFAN / LLUN DOSBARTH
    WHOLE SCHOOL PHOTO / CLASS PHOTO
    Bydd y ffotograffydd ysgol gyda ni yn Carreg Hirfaen yfory (dydd Mercher, Mehefin 7fed) yn tynnu llun Ysgol Gyfan a lluniau grwp dosbarth.
    Bydd angen i'r plant ddod i'r ysgol yn eu gwisg ysgol yfory ac fe fydd y disgyblion hynny sydd efo gwers chwaraeon yn medru newid i'w gwisg chwaraeon yn ystod y dydd.
    
    The school photographer will be at Carreg Hirfaen tomorrow (Wednesday June 7th) taking a whole school and class group photos.
    All pupils will therefore need to wear school uniform to school in the morning and those pupils with games lessons will change into their PE kit during the day.
  • Lluniau Ysgol - School Photos

    Tue 23 May 2023
    LLUNIAU YSGOL - SCHOOL PHOTOS

    12/06/23

    Bydd y ffotograffydd ysgol gyda ni yn Carreg Hirfaen yn tynnu lluniau unigol o'r plant a/neu lluniau teulu ar fore dydd Llun, Mehefin 12fed.

     

    The school photographers will be at Carreg Hirfaen on Monday June 12th. They will be taking individual and/or family photos.

  • Eisteddfod TRJ

    Wed 17 May 2023
Top