Dyma newyddion diweddaraf yr ysgol.
Here you will find the latest School news.
-
Mabolgampau Ysgol - School Sports
Thu 09 Jun 2022Yn anffodus, oherwydd y tywydd anffafriol heddiw a'r rhagolygon ansicr ar gyfer yfory, rydym wedi penderfynu gohurio ein mabolgampau ysgol tan ddydd Iau nesaf, Mehefin 16eg. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra. Unfortunately, due to the rain and unsettled weather promised for tomorrow, we have postponed our School Sports until next Thursday, June 16th. Apologies for any inconvenience this may cause. -
Mabolgampau Ysgol Carreg Hirfaen School Sports
Mon 16 May 2022Cynhelir mabolgampau Ysgol Carreg Hirfaen eleni ar ddydd Gwener, Mehefin 10fed, 2022 ar gaeau chwarae Canolfan Bentref Cwmann (Cae Chwarae ger yr ysgol).
Mae croeso cynnes i chwi fel rhieni i ymuno gyda ni yn yr hwyl ar y diwrnod. Bydd y mabolgampau yn cychwyn am 9.30am gyda'r rasus gwibio, ac yn parhau trwy gydol y diwrnod ysgol. Rhennir mwy o wybodaeth gyda chi yn agosach i'r dyddiad.
This year's Ysgol Carreg Hirfaen sports day will be held on Friday, June 10th, 2022 at Cwmann Village playing fields (the playing field next to the school).
Parents are most welcome to join us on the day. The sports will start at 9.30am and continue throughout the school day. More information will be shared with you nearer the date.
-
Noson Rhieni - Parents Evening (04/05/22 - 05/05/22)
Wed 27 Apr 2022Noson Rhieni - Parents Evening
04/05/22 - 05/05/22
Annwyl riant / gwarcheidwad,
Fe'ch gwahoddir i wneud apwyntiadau ar gyfer cyfarfod rhieni-athrawon nesaf yr ysgol. Bydd yr apwyntiad yn cael eu archebu ar-lein, ac yna'n cael eu cynnal unwaith yn rhagor trwy gyfarfod fideo yn hytrach nag yn bersonol yn yr ysgol.
Mae'r cyfarfodydd rhieni ac athrawon i'w cynnal ar ddydd Mercher 4ydd Mai, a dydd Iau 5ed Mai, 2022.
I wneud eich apwyntiadau, mewngofnodwch yn: https://parents-booking.co.uk/ ysgolch
I fewngofnodi bydd angen i chi nodi:
• Eich enw cyntaf a'ch cyfenw
• Enw cyntaf, cyfenw a dyddiad geni eich plentyn
(Rhaid i'r manylion yma gyd-fynd â'r manylion sydd gennym ni ar gofnod i chi).
Bydd yr apwyntiadau ar gael i chi eu harchebu o 6pm heno sef dydd Mercher 27ain o Ebrill 2022.
Ar ôl i chi wneud eich apwyntiadau gallwch ddewis argraffu neu e-bostio cadarnhad.
******************************************
You are invited to make appointments for the school’s next parent-teacher meetings. These meetings will be booked online, and again held by video meeting rather than in-person at the school.
The parent-teacher meetings will be held on Wednesday 4th May and Thursday 5th May, 2022.
Appointments will be available to book from 6pm tonight - Wednesday 27th April 2022.
To make your appointments please login at: https://parents-booking.co.uk/ysgolch
To login you will need to enter:
-
Your first name and surname
-
Your child’s first name, surname and date of birth
(The login details you enter must match those we have on record for you.)
After you have made your appointments you can choose to print or e-mail a confirmation.
-
-
CYFARFOD PTA MEETING
Thu 07 Apr 2022CYFARFOD PTA MEETING
07/04/22 - 7PM
Gwahoddir chi i gyfarfod Zoom PTA Ysgol Carreg Hirfaen.
You are invited to a scheduled Carreg Hirfaen PTA Zoom meeting.
Amser / Time: 07:00 PM
Ebrill 7, 2022 / Apr 7, 2022
AGENDA
-
Ail-sefydlu Pwyllgor y PTA / Reassemble the PTA Committee
-
Trefnu Gweithgareddau PTA Tymor yr Haf / Arrange Summer Term PTA Activities
Dilynwch y ddolen isod i ymuno â'r cyfarfod:
Please use the following link to join the meeting:
Join Zoom Meeting
https://us04web.zoom.us/j/71991707347...
Meeting ID: 719 9170 7347
Passcode: Pve2WJ
-
-
STORM EUNICE - Ysgol ar Gau / School Closure
Thu 17 Feb 2022NEGES BWYSIG - YSGOL AR GAU YFORY
PENDERFYNIAD GAN CYNGOR SIR CAERFYRDDIN
STORM EUNICE
Bydd Storm Eunice yn dod â gwyntoedd cryfion i Gymru o oriau mân fore Gwener.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch am wynt a allai amharu'n sylweddol arnom ac achosi amodau peryglus. Mae rhybudd melyn hefyd mewn grym am law trwm.
O ganlyniad, ein cyngor pendant yw bod pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn symud i ddysgu o bell yfory er mwyn cymryd pob gofal i sicrhau diogelwch yr holl ddisgyblion a'r staff.
BYDD CAMPWS CARREG HIRFAEN AR GAU YFORY FELLY.
IMPORTANT NOTICE - SCHOOL CLOSED TOMORROW
DECISION MADE BY CARMARTHENSHIRE COUNTY COUNCIL
STORM EUNICE
Storm Eunice is set to bring some extremely strong winds to Wales from the early hours of Friday morning.
The Met Office has issued a red warning of wind which could bring significant disruption and dangerous conditions. There is also a yellow warning for heavy rain in place.
As a result, we are strongly advising all Carmarthenshire schools to move to distance learning tomorrow as a precaution to ensure the safety of all pupils and staff.
CARREG HIRFAEN CAMPUS WILL THEREFORE BE CLOSED TOMORROW.
-
Fidio Trawsnewid ADY - ALN Transformation Video
Wed 02 Feb 2022Fideo wedi'i Animeiddio ynghylch Trawsnewid ADY:
Wrth baratoi ar gyfer ymgorffori y Bil Trawsnewid ADY sy’n cael ei fabwysiadu gan ysgolion ledled Cymru, dyma fideo i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n esbonio’r system ADY newydd:
https://player.vimeo.com/video/582508940?badge=0&autopause=0&player_id=0&app_id=58479
ALN Transformation Animated Video
In preparation for the ALN Transformation Bill being adopted by schools across Wales, here is an animated video for children, young people and families which explains the new ALN system:
https://player.vimeo.com/video/582508115?badge=0&autopause=0&player_id=0&app_id=58479
-
Dathlu Penblwydd yr URDD yn 100 - Urdd 100th Birthday Celebration
Fri 21 Jan 2022Mae Mudiad yr Urdd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 100 oed dydd Mawrth nesaf (25/01/22). I ymuno yn y dathlu gall disgyblion Carreg Hirfaen wisgo dillad coch, gwyn neu wyrdd i'r ysgol dydd Mawrth.
With the Urdd movement celebrating it's 100th birthday next Tuesday (25/01/22), the pupils of Carreg Hirfaen are welcome to join in the celebrations by wearing red, white or green to school.
-
Trefniadau dychwelyd i'r Ysgol - Ionawr 2022 (Back to School Arrangements - January 2022)
Wed 05 Jan 2022Trefniadau dychwelyd i'r Ysgol - Ionawr 2022
Back to School Arrangements - January 2022
Wrth i'n disgyblion ddychwelyd i'r ysgol yfory gofynwn yn garedig i'n rhieni i barchu rheoliadau Covid yr ysgol trwy gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr wrth eich gilydd, wisgo gorchudd wyneb wrth ollwng a chasglu eich plant o'r ysgol, a sicrhau bod eich plant yn diheintio dwylo cyn dod i mewn i'r ysgol yn y bore. Yn ogystal, os yw eich plentyn yn arddangos unrhyw symptomau Covid-19 anogwn i chi ei brofi/phrofi cyn iddo/iddi ddod i'r ysgol yn y bore.
CLWB BRECWAST - CLWB GOFAL AR OL YSGOL
Mae ein trefniadau arferol ar gyfer y clwb brecwast yn parhau a cynigir gofal ar ol ysgol i'n disgyblion trwy Feithrinfa Seren.
CASGLU DIWEDD DYDD
Mae'r trefniadau ar gyfer casglu disgyblion ar ddiwedd dydd yn parhau efo rhieni yn casglu plant y cyfnod sylfaen am 3pm a rhieni plant cyfnod allweddol 2 yn eu casglu am 3.15pm. Cesglir teuluoedd cyfnod sylfaen a cyfnod allweddol 2 am 3pm fel arfer. Bydd y bws ysgol yn gadael Carreg Hirfaen am 3.25pm fel arfer.
Er mwyn lleihau'r risg o oedolion yn trosglwyddo Covid i'n gilydd wrth gât yr ysgol bydd gennym drefn newydd mewn lle wrth i'n rhieni aros eu tro i gasglu plant ar ddiwedd dydd. O hyn ymlaen disgwylwn i'n rhieni i aros mewn rhesi dosbarth penodol cyn cael eu galw gan staff i mewn i'r iard i gasglu eu plant.
Bydd staff ar gael pnawn yfory wrth gât yr ysgol i'ch cynghori am hyn ac i esbonio'r drefn newydd.
PARCIO
Gofynwn yn garedig i'n rhieni barcio yn gyfrifol yn y maes parcio ar ddiwedd dydd gan lenwi'r bylchau gwag ac osgoi defnyddio'r ardal benodedig ar gyfer parcio anabl.
***********************************************************
As our pupils return to school tomorrow we kindly ask parents to respect the School's Covid regulations by keeping a social distance of 2 meters apart, wearing a face cover when dropping off and picking up your children from school, and making sure that your children sanitise their hands by the entrance gate before coming into school in the morning.
In addition, if your child is exhibiting any Covid-19 symptoms we urge you to carry out an LFT test before he / she comes to school in the morning.
BREAKFAST CLUB- AFTER SCHOOL CLUB
Our usual breakfast club arrangements will continue this term and our pupils will continue to be offered after school care through Seren Nursery.
ARRANGEMENTS FOR COLLECTING PUPILS AT END OF SCHOOL DAY
Autumn term arrangements for collecting pupils at the end of the school day will remain in place with parents collecting foundation phase children at 3pm and parents of key stage 2 children collecting them at 3.15pm. Families with pupils in both key stages can be collected as usual at 3pm. The school bus will leave Carreg Hirfaen at 3.25pm as usual.
To reduce the risk of adults transferring Covid to each other at the school gate we will have a new procedure in place at the end of the day. As parents wait their turn to collect children from school they will need to wait in one of three class rows before being called by staff onto the yard to collect their children.
Staff will be available at the school gate tomorrow afternoon to advise you on the new arrangements.
PARKING
We kindly ask our parents to park responsibly in the car park at the end of the school day by using up the empty spaces before parking near the grass verge and to avoid using the designated areas for disabled parking unless you have a blue badge.
Diolch unwaith eto am eich cydweithrediad
Many thanks for your cooperation.
Aled Jones Evans
-
Cinio Nadolig Yfory - Christmas Dinner Tomorrow
Tue 14 Dec 2021Cofiwch am y Cinio Nadolig yfory ac hefyd bod cyfle i'r plant wisgo dillad Nadoligaidd o'u dewis os dymunant.
A reminder of our Christmas Lunch tomorrow and also that pupils are welcome to wear Christmasy clothing of their own choice to school.
-
Gwyliau Nadolig - Christmas Holidays
Tue 14 Dec 2021Bydd yr ysgol yn cau am wyliau Nadolig ddydd Mawrth nesaf, Rhagfyr 21ain ac yna'n ailagor yn y flwyddyn newydd ar ddydd Mercher, Ionawr 5ed 2022.
A reminder that school will close for Christmas Holidays next Tuesday, December 21st and will reopen in the new year on Wednesday, January 5th, 2022.